Tafarn y Brit
Port Talbot
Tafarn draddodiadol sy’n cynnig cwrw go iawn yw Tafarn y Brit ym mhentref Cwmafan; mae’n cynnig awyrgylch cynnes a décor hynod ond steilus. Gyda’i waliau cerrig, lloriau carreg, tân agored a bar o bren adferedig wedi’u greu o’r estyll a’r drysau gwreiddiol, mae gan y dafarn gymeriad nodedig a digon o hanesion tu cefn iddi.
Mae’r ystafell fwyta gynnes yn cynnig lleoliad coeth ar gyfer pryd o fwyd arbennig neu le ymlaciol i fwynhau bwyd cartref go iawn. Y tu allan, mae’r ardd gwrw dawel yn edrych dros afon sy’n llawn bywyd gwyllt, gan greu lle hyfryd i ymlacio yn yr haul.