Mae’r Colliers Arms yn dafarn bentref draddodiadol sy’n gynnes ac yn groesawgar gyda chyfleusterau bwyta rhagorol. Mae gan Fwyty’r Riverside ddrysau Ffrengig sy’n agor ar falconi uwch yr Afon Pelenna. Mae’n ymfalchïo yn y fwydlen helaeth ac yn gweini prydau hael. Mae gan y Colliers Arms enw da am ginio Dydd Sul hefyd.