Bro’r Sgydau, Pontneddfechan
Bro Nedd
Yn swatio ar lethrau deheuol masiff y Fforest Fawr, i’r gogledd o Lyn-nedd, mae Bro’r Sgydau yn un o’r rhannau mwyaf prydferth a phoblogaidd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Geoparc y Fforest Fawr, gyda cheunentydd serth, coediog a digonedd o ddŵr aflonydd.
Lleolir Bro’r Sgydau yn y triongl a ffurfiwyd gan bentrefi Hirwaun, Ystradfellte a Phontneddfechan. Yma, mae haenau o dywodfaen, siâl a chalchfaen wedi creu amgylchedd trawiadol dros ben o geunentydd coediog, ogofâu a rhaeadrau (sgydau).
Mae mynd i mewn i’r dŵr yn peri risg ddifrifol o anaf sy’n newid bywyd neu farwolaeth o ganlyniad i amodau oer, dwfn a llif cyflym yn ogystal â pheryglon cudd. Peidiwch â nofio, neidio i byllau nac ymdrochi mewn afonydd. Peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr oni bai eich bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda hyfforddiant priodol neu gyda gweithredwr trwyddedig. Cymerwch ofal i osgoi llithro a chwympo, gwisgwch esgidiau addas, a chadwch at lwybrau dynodedig.
Mae nifer mawr o ymwelwyr yn ymweld â Gwlad y Sgydau ar hyn o bryd sy’n effeithio’n negyddol ar y gymuned leol. A fyddech cystal ag ystyried ymweld â sgydau eraill yng Nghwm Nedd sy’n cynnig troeon byrrach, gyda chyfleusterau parcio dynodedig. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Rhaeadr Melincwrt a Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais.
Cyn i chi ymweld, byddwch yn ymwybodol o’r canlynol:
– Mae’r meysydd parcio yn aml yn llawn erbyn canol dydd, os nad yn gynt.
– Bydd parcio anghyfreithlon yn arwain at ddirwy. Parciwch yn y mannau parcio dynodedig yn unig ac nid ar ymyl y ffordd nac ar y palmentydd.