Mannau i Ymweld â nhw

Mae ein mynyddoedd a’n cymoedd, ein hafonydd a’n harfordir yn darparu cefnlen naturiol ar gyfer ystod o weithgareddau. Ond nid dyna’r unig ffordd i ymwelwyr â Chastell-nedd Port Talbot ymgolli yn ein tirwedd ddramatig.

Mae ein parciau gwledig yn cynnig cyfuniad o fannau agored, tirweddau godidog, byd natur, bywyd gwyllt, treftadaeth ac ystod eang o weithgareddau a chyfleusterau i greu diwrnod gwych alllan. Yn y gornel fach hon o Brydain y ceir y crynodiad uchaf o raeadrau, ogofâu a cheunentydd unrhyw le yn y wlad, a dyna pam rydyn ni’n cael ein hadnabod fel ‘Gwlad y Sgydau’.

 

Mae llawer o’n hamgueddfeydd a’n safleoedd treftadaeth yn ailadrodd hanes ein gorffennol diwydiannol balch. Maen nhw’n datgelu sut bu natur yn chwarae rôl allweddol wrth i’r rhanbarth hwn ddod yn un o ardaloedd diwydiannol pwysicaf Prydain, os nad y byd, yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif. Cewch hefyd fanylion gonest am sut fywyd câi’r bobl oedd yn byw ac yn gweithio yma yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

Daeth y rhanbarth yn ganolfan i’r byd eto, am gyfnod byr, ym mis Rhagfyr 2018, er am reswm cwbl wahanol y tro yma, sef ein hatyniad diweddaraf, ‘Season’s Greetings’ gan Banksy, a ymddangosodd dros nos ar garej yn Nhaibach.

Parciau Gwledig

Mae ein parciau gwledig yn cynnig hwyl i bob cenhedlaeth o’r teulu.

Amgueddfeydd a Safleoedd Treftadaeth

Camwch nôl mewn amser trwy ymweld ag un o’n hamgueddfeydd neu ein canolfannau treftadaeth.

Lleoliadau Celf a Theatrau

Mae natur ddramatig y rhanbarth yn sbarduno pob math o greadigrwydd yn ein lleoliadau celfyddydau a’n theatrau.

Parc Coedwig Afan

Rhaeadrau

Darganfod pam mae ein cornel ni o’r byd yn cael ei galw’n ‘Wlad y Sgydau’...

GLAN MÔR ABERAFAN

Mae tywod euraid, prom bywiog a digonedd o hufen iâ yn creu cyrchfan perffaith i’r teulu.

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Chwilio