Llwybrau Cerdded Parc Coedwig Afan

Mae cerdded yn ffordd naturiol o ymlacio.

Mae ein llwybrau cerdded yn amrywio o dro hamddenol filltir o hyd i daith ddeng milltir fwy egnïol (dewch â chinio pecyn). Mae ein llwybrau’n dechrau yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan, Maes Parcio Rhyslyn a Chanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg. Bydd cerdded ar hyd ein dyffryn yn clirio’r meddwl, yn eich ailgysylltu â natur ac yn codi gwên lydan ar eich wyneb.

 

Mae’r holl lwybrau cerdded ym Mharc Coedwig Afan wedi’u cyfeirbwyntio. Os hoffech grwydro ragor o’n dyffrynnoedd ehangach ar droed, edrychwch ar ein teithiau cerdded.

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Chwilio