Ffordd y Goedwig a Ffyrdd Tebyg
Yn addas i ystod eang o feicwyr a’r rhan fwyaf o feiciau a beiciau hybrid. Byddai’r gallu i ddefnyddio mapiau yn ddefnyddiol. Ni fydd pob llwybr wedi’i gyfeirbwyntio.
Mathau o Lwybrau ac Arwyneb: Cymharol lydan a gwastad. Gall arwyneb y llwybr fod yn rhydd, yn anwastad neu’n fwdlyd ar brydiau. Efallai y bydd y ffyrdd yn cael eu defnyddio gan gerbydau a defnyddwyr eraill, gan gynnwys marchogion a cherddwyr cŵn.
Graddiant a Nodweddion Llwybr Technegol (TTF): Gall graddiannau amrywio’n sylweddol a chynnwys rhannau byr serth. Gall fod ambell dwll ar y llwybr.
Lefel Ffitrwydd a Awgrymir: Gallai safon dda o ffitrwydd fod o gymorth.
Gwyrdd – Rhwydd
Yn addas i ddechreuwyr/beicwyr newydd. Mae gofyn cael sgiliau beicio sylfaenol. Y rhan fwyaf o feiciau a beiciau hybrid. Gall ambell lwybr gwyrdd fod yn addas i ôl-gerbydau.
Mathau o Lwybrau ac Arwyneb: Cymharol wastad a llydan. Gall arwyneb y llwybr fod yn rhydd, yn anwastad neu’n fwdlyd ar brydiau. Gall gynnwys rhannau byr o drac sengl di-dor.
Graddiant a Nodweddion Llwybr Technegol (TTF): Mae’r rhan fwyaf o’r dringfeydd a’r disgyniadau yn fas. Dim nodweddion heriol.
Lefel Ffitrwydd a Awgrymir: Addas i’r rhan fwyaf o bobl iach.
Glas – Cymedrol
Addas i feicwyr/feicwyr mynydd canolradd sydd â sgiliau sylfaenol o ran beicio oddi ar y ffordd. Beiciau mynydd neu feiciau hybrid.
Mathau o Lwybrau ac Arwyneb: Fel y rhai ‘Gwyrdd’ gyda thrac sengl wedi’i adeiladu’n arbennig. Gall arwyneb y llwybr gynnwys rhwystrau bychain fel gwreiddiau a chreigiau.
Graddiant a Nodweddion Llwybr Technegol (TTF): Mae’r rhan fwyaf o’r graddiannau’n gymedrol ond gall fod rhai rhannau byr serth. Yn cynnwys mân nodweddion llwybr technegol.
Lefel Ffitrwydd a Awgrymir: Gallai safon dda o ffitrwydd fod o gymorth.
Coch – Anodd
Addas i feicwyr mynydd medrus sydd â sgiliau da o ran beicio oddi ar y ffordd. Addas i feiciau mynydd oddi ar y ffordd o ansawdd da.
Mathau o Lwybrau ac Arwyneb: Yn fwy serth a chaled, trac sengl yn bennaf gydag adrannau technegol. Byddwch yn barod am amrywiaeth mawr o arwynebau.
Graddiant a Nodweddion Llwybr Technegol (TTF): Bydd ystod eang o ddringfeydd a disgyniadau heriol. Gallwch ddisgwyl llwybrau estyll, ysgafellau, creigiau mawr, camau canolig,
glaniadau, cambrau a mannau croesi dŵr.
Lefel Ffitrwydd a Awgrymir: Lefel uwch o ffitrwydd a stamina.
Du – Caled
Addas i feicwyr mynydd profiadol, sy’n gyfarwydd â llwybrau sy’n heriol yn gorfforol. Beiciau mynydd oddi ar y ffordd o ansawdd da.
Mathau o Lwybrau ac Arwyneb: Fel y ‘Coch’ ond dylech ddisgwyl mwy o her ac anhawster parhaus. Gall gynnwys unrhyw lwybr mae modd ei ddefnyddio, megis rhannau agored ar fryniau o bosibl.
Graddiant a Nodweddion Llwybr Technegol (TTF): Byddwch yn barod am nodweddion llwybr technegol mawr, caled, na ellir eu hosgoi. Bydd darnau heriol ac amrywiol. Yn ogystal, gall fod darnau ar i waered.
Lefel Ffitrwydd a Awgrymir: Addas ar gyfer pobl egnïol iawn sy’n gyfarwydd ag ymdrech gorfforol estynedig.