Mae W2, fel mae’r enw yn awgrymu, yn cysylltu llwybr y Wal a Llwybr White’s Level, i greu llwybr hir 44km a’r her beicio mynydd orau posib. Mae modd cychwyn o’r naill ganolfan ymwelwyr neu’r llall, gyda’r ganolfan arall yn cynnig lle delfrydol i dorri’r daith ac ail-lenwi’r tanc.
Pellter: 44km
Amser Reidio: 4 i 7 awr
Dringfa: 975m
Man Cychwyn: Naill ai Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan neu Ganolfan Ymwelwyr Pyllau Glyncorrwg
Gradd: Du / Caled
I lawrlwytho map y llwybrau hyn ewch i wefan Beicio Mynydd Cymru.