Y llwybr 15.2km hwn yw’r llwybr mwyaf technegol yn y parc ac mae’n cynnwys dringfeydd nadreddog, rhannau cyfyng trwy’r coed a llethrau creigiog ar y disgyniad olaf (‘Darkside’). Caiff beicwyr ddewis disgyn ar hyd llwybr du, sy’n ddwywaith cymaint o hwyl i feicwyr mentrus.
Pellter: 15km
Amser Reidio: 1.5 – 3 awr
Dringfa: 405m
Man Cychwyn: Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg
Gradd: Coch / Anodd
I lawrlwytho map y llwybrau hyn ewch i wefan Beicio Mynydd Cymru.