Margam yw’r mwyaf o bell ffordd, gydag 800 erw o barcdir godidog. Mae Castell Margam, a fu gynt yn ystâd i deulu Talbot, mewn arddull Tuduraidd-Gothig, ac yn awgrymu ysblander yr oes a fu. Os ydych chi am ymlacio, mae teithiau cerdded tawel ar gael yn y gerddi addurniadol neu i fyny i’r bryniau tonnog. Ond os yw antur yn fwy at eich dant, mae Her Go Ape! ar frig y coed yn cynnig cyffro fry, gan gynnwys Siglen Tarzan fwyaf y Deyrnas Unedig, tra bod Antur Parc Margam yn cynnal ystod eang o weithgareddau awyr agored.
Mae Ystâd y Gnoll yn barc mwy hamddenol i’r teulu, ac mae’n dal i gynnwys llawer o nodweddion gerddi’r teulu diwydiannol cefnog a fu’n berchen arno. Ac mae gwarchodfa natur Craig Gwladus yn digwydd bod yn gartref i un o fathau prinnaf y byd o’r miltroed, a ddarganfuwyd yno yn 2018.