Daeth ton ar ôl ton o bobl trwy ein rhanbarth a gadael eu hôl ar ein tirwedd. Gadawodd y Celtiaid gylchoedd cerrig, cododd y Rhufeiniaid gaerau, a sefydlodd y Normaniaid fynachlogydd.
Ond yn y pen draw, roedd yr hyn sydd wedi diffinio’n hardal yn fwy na dim arall wedi bod yma ar hyd yr amser, o dan ein traed. Sicrhaodd y ffaith bod digonedd o lo yn y rhanbarth, yn ogystal â blaengaredd wrth ddatblygu technolegau cloddio newydd yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, fod Maes Glo De Cymru yn dod yn un o’r mwyaf yn y byd. Glo hefyd oedd y tanwydd a ddefnyddiwyd ar gyfer ffwrneisiau chwyth y gweithfeydd copr a haearn a ehangodd yn gyflym yn y rhanbarth.
Go brin ei fod yn syndod mawr, felly, bod llawer o’n hamgueddfeydd a’n canolfannau treftadaeth wedi’u neilltuo ar gyfer adrodd hanesion y mannau a’r bobl a fu ar un adeg yn gwbl ganolog i ddiwydiannaeth.