Treuliodd Alfred Russel Wallace, y naturiaethwr o’r 19eg ganrif, flynyddoedd yn archwilio coedwig law yr Amazon ac Ynysfor Malaya. Ac eto, yn ei atgofion, ysgrifennodd am Fro Nedd.
Y ‘nodweddion arbennig’ mae’n sôn amdanynt yw cyfres o raeadrau dramatig sy’n tywallt i lawr trwy geunentydd serth, coediog afonydd Mellte, Hepste, Pyrddin a Nedd-Fechan ac yn y pen draw, i Afon Nedd.
Rhaeadr Aberdulais yng Nghwm Dulais yw’r mwyaf hygyrch, gan fod canolfan yno sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n arddangos harddwch naturiol a threftadaeth ddiwydiannol y safle. Rai milltiroedd yn uwch ym Mro Nedd, mae’r rhaeadr drawiadol 80tr o uchder ym Melincwrtar ddiwedd llwybr byr trwy’r coetir.
Anelwch ymhellach i’r gogledd, ac fe ddewch i ‘Wlad y Sgydau’, ardal siâp triongl sy’n cael ei ffurfio gan bentrefi Pontneddfechan, Ystradfellte a Hirwaun. Mae grymoedd byd natur wedi dod ynghyd yma i greu ardal sydd â chrynodiad uchel o raeadrau, ceunentydd ac ogofâu.
Sylwer oherwydd y perygl sylweddol o ganlyniad i lifoedd dŵr anrhagweladwy, ni ddylai ymwelwyr fynd i mewn i’r dŵr yng Ngwlad y Sgydau oni bai eu bod yn rhan o grŵp gweithgareddau wedi’i drefnu yng nghwmni hyfforddwyr cymwys.