Dyfeisiodd clwb beicio’r Port Talbot Wheelers ein taith ein hunain ar draws y Pum Cwm – ‘Tour de Cinq Vallées’ – nôl yn 1958, ras galed ar hyd 70 milltir, yn cynnwys rhai o ddringfeydd mwyaf eiconig De Cymru. Yma mae gennym ni’r holl bethau sydd wrth fodd calon beicwyr ffordd: lonydd troellog, dringfeydd caled a disgyniadau cyffrous – yn ogystal â digonedd o gaffis i gael hoe hollbwysig ar y ffordd.
Mae beicio’n ffordd wych o fynd allan i’r awyr agored, cael ymarfer corff a darganfod yr ardal. Mae gennym ystod o lwybrau beicio diogel sy’n ddelfrydol i deuluoedd, o linellau rheilffordd nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach i llwybrau halio tawel ein camlesi.
I gael manylion llawn am feicio, ‘Map Teithio Llesol’ rhyngweithiol ac i lawrlwytho map o lwybrau beicio yn ardal ddramatig Calon Cymru, ewch i Wefan CBS Castell-nedd Port Talbot.
Dyma ddetholiad o’r uchafbwyntiau beicio yn yr ardal:
Cwm Afan
Mae Llwybr 887 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn llwybr di-draffig sy’n dilyn Cwm Afan o ddiwydiant Port Talbot i fannau gwyrdd agored Parc Coedwig Afan, gan fynd trwy Bontrhydyfen – lle ganed Richard Burton – ar y ffordd.
Trywydd Cwm Tawe
Mae llwybr Beicio Cwm Tawe yn rhan o Lwybr 43 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ac mynd â chi trwy galon Cwm Tawe, o Drebannws i Ystalyfera.
Y Lôn Geltaidd
Mae ein rhan ni o Lwybr 4 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sy’n croesi De Cymru gyfan, yn cysylltu â Llwybr 887 yn Aberafan, gan fynd â chi ar hyd y promenâd ar gyfer un o’r adrannau mwyaf hamddenol a braf.
Y Lefel Uchel
Dewiswch lwybr ‘lefel uchel’ amgen y Lôn Geltaidd, Llwybr 47 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol o Gwm Rhondda i lawr i harddwch Bro Nedd.