Gŵyl Celfyddydau Castell-nedd 2026
Dathlwch greadigrwydd a diwylliant yng Ngŵyl Celfyddydau Castell-nedd 2026! Bydd yr ŵyl yn cyflwyno rhestr gyffrous o berfformiadau byw, arddangosfeydd celf, gweithdai rhyngweithiol a gweithgareddau sy’n addas i’r teulu. P’un a ydych yn dwlu ar gelf, cerddoriaeth neu’r cyhoeddiadau diweddaraf gan awduron llenyddiaeth i blant ac oedolion yng Nghymru, mae Gŵyl Celfyddydau Castell-nedd yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Mewn tref â hanes hirfaith, o’i man cychwyn yn yr Oes Rufeinig i’w threftadaeth ddiwydiannol, bydd yr ŵyl yn eich gwahodd i archwilio etifeddiaeth ddiwylliannol Castell-nedd.
Ceir rhagor o wybodaeth a thocynnau i’r digwyddiad drwy fynd i https://www.neathartsfestival.cymru/