AR Y FFORDD
Mae traffordd yr M4 yn rhedeg ar hyd y llain arfordirol trwy Bort Talbot, tra bod yr A465, ffordd Blaenau’r Cymoedd yn croesi rhan uchaf y sir. Mae’r ddwy yn cysylltu’n hwylus â rhwydwaith traffyrdd y Deyrnas Unedig – yr M50, yr M5 a’r M6 – felly mae’n hawdd mynd oddi yma i Lundain, Canolbarth Lloegr a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae diweddariadau amser go iawn ar gael ar-lein yn traffic.wales
AMSERAU TEITHIO
Pontydd Hafren – 60munud
Birmingham – 2awr 40munud
Bristol – 1awr 30munud
Caerdydd – 40munud
Llundain – 3awr 30munud
AR Y RHEILFFORDD
Mae gan Gastell-nedd a Phort Talbot orsafoedd ar y brif lein sy’n cysylltu’n uniongyrchol â Llundain Paddington. Mae gan holl ranbarthau’r Deyrnas Unedig gysylltiadau mynych naill ai’n uniongyrchol neu trwy newid yn hwylus unwaith.
YN YR AWYR
Mae’r Sir o fewn cyrraedd hwylus i feysydd awyr Caerdydd, Bryste, Llundain (Heathrow a Gatwick), ac mae cysylltiadau ardderchog ar y trên neu’r goets.
AR Y BWS
Mae bysus lleol yn gwasanaethu Castell-nedd, Port Talbot, Pontardawe ac ardaloedd y Cymoedd. I gael rhagor o fanylion, ewch i traveline.cymru
MANNAU I AROS
Gwestai, motelau, bythynnod moethus, gwersylla, gwersylla moethus… maen nhw i gyd yn opsiynau. Chwiliwch ar-lein yn dramaticheart.wales i gael hyd i le perffaith i aros.