LLWYBR BEICIO MYNYDD CEIRW MARGAM

Cafodd y llwybr beicio hwn a fu unwaith yn gyfrinach gudd ym mherfeddion Parc Gwledig Margam, ei ddatblygu a’i raddio, yn wreiddiol, fel llwybr du (profiadol) 5km o hyd ar gyfer digwyddiad arbenigol untro ...

Am flynyddoedd bu’r llwybr ar gau i’r cyhoedd hyd nes i brosiect lleol gael ei drefnu i ailsefydlu ac agor y llwybrau beicio mynydd yn y parc. Adluniwyd y llwybrau a’u datblygu i gynnwys llwybr i ddechreuwyr sy’n addas i deuluoedd, gyda dewisiadau ychwanegol i’r rhai sy’n barod i fentro i’r lefel feicio nesaf, ac wrth gwrs, mae llwybr du i herio beicwyr profiadol yn goron ar y cyfan.

 

Darllenwch y disgrifiadau o’r llwybrau isod i gael gwybod beth i’w ddisgwyl gan bob un:

 

Llwybr Gwyrdd – Addas i’r Teulu

Mae hwn yn llwybr gwastad yn bennaf, yn llydan gydag wyneb tarmac neu gerrig wedi’u rholio mewn mannau. Mae’n addas i bob oed, beiciau cydbwyso, beiciau â sedd baban/ôl-gerbydau ac mae’n berffaith i ddechreuwyr. Mae beiciau hybrid a beiciau mynydd sylfaenol yn addas ar gyfer y llwybr hwn neu mae modd llogi go-cart pedalau o Margam Park Adventure. Mae go-gerti wedi’u haddasu ar gael hefyd sy’n gwneud y llwybr hwn yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.

Pellter: tua 4km

 

Llwybr Glas – Canolraddol

Mae rhai dringfeydd heriol yn arwain at ddarn trac sengl ar i waered. Mae ysgafellau, pontydd, a chyfle bach i ddisgyn i lawr ceunant (mae modd osgoi’r darn hwn), rhai rholwyr a rhai rhannau’n llawn gwreiddiau. Addas ar gyfer beicwyr canolraddol sydd â sgiliau sylfaenol o ran beicio oddi ar y ffordd.

Pellter: tua 5km trwy fynd ar hyd y llwybr gwyrdd ac ychwanegu dringfa’r llwybr glas a’r adran glo.

 

Llwybr Coch – Datblygedig

Dringfeydd byr, serth a heriol, rhai disgyniadau anoddach gydag ysgafellau mawr, nodweddion pren, mannau glanio a rhai rhannau llawn creigiau. Addas i feiciau mynydd yn unig a beicwyr medrus sydd â sgiliau da o ran beicio oddi ar y ffordd.

Pellter: Tua 4km fel dolen ar ei phen ei hun. 6-8 km os ychwanegir y rhannau glas neu ddu.

 

Llwybr Du – Profiadol

Dringfeydd hirach a mwy heriol â nifer o ddisgyniadau serth gyda nodweddion mawr na ellir eu hosgoi. Rhai troeon igam-ogam tyn a rhannau cyflym â chyfleoedd i neidio a glanio. Yn addas i feicwyr mynydd profiadol sy’n gyfarwydd â llwybrau sy’n gorfforol heriol. Bydd angen beic mynydd oddi ar y ffordd o ansawdd da ar gyfer y rhannau hyn o’r llwybr.

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Chwilio