Dod i Adnabod ein Parciau Gwledig gyda’r Pàs Pob Parc

Mae Castell-nedd Port Talbot yn ardal o dirweddau syfrdanol, ystadau hanesyddol a chefn gwlad tangnefeddus.

O lwybrau troellog i lynnoedd tawel a choetiroedd toreithiog, mae’n parciau gwledig yn cynnig rhywbeth ar gyfer pawb; p’un a ydych chi’n mynd am daith gerdded hamddenol, diwrnod allan i’r teulu neu antur ym myd natur. Nawr, diolch i’r Pàs Pob Parc, dydy hi erioed wedi bod yn haws i ddod i adnabod y gofodau hardd hyn.

Beth yw’r Pàs Pob Parc?

Y Pàs Pob Parc yw eich allwedd i anturiaethau diderfyn ar draws parciau gwledig hardd Castell-nedd Port Talbot. Gyda’r pàs hwn gallwch:

  • Fwynhau mynediad heb derfyn i nifer o barciau
  • Derbyn disgownts unigryw i atyniadau a gweithgareddau
  • Byddwch yn arbed arian ar bob ymweliad, boed yn daith ar eich pen eich hun, diwrnod allan i’r teulu neu antur ddigymell

Mae’n berffaith i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd gan roi’r rhyddid i chi grwydro ar eich cyflymder eich hun a dod yn ôl dro ar ôl tro i’ch hoff fannau.

Dewiswch eich Parc

Mae Calon Ddramatig Cymru yn gartref i nifer o barciau gwledig rhyfeddol, gyda phob un yn unigryw o ran ei harddwch a’i swyn.

Y mwyaf, o bell ffordd, yw Parc Gwledig Margam, wedi leoli o fewn 800 erw o barcdir tonnog. Unwaith yn ystâd i’r teulu Talbot, mae Castell Margam Gothig-Duduraidd yn rhoi awgrym o rwysg y dyddiau fu. I’r rhai sy’n chwilio am brofiad ymlaciol, mae teithiau cerdded hamddenol drwy’r gerddi addurnol neu i fyny i’r bryniau tonnog. Ond os mai antur yw eich dymuniad, mae her Coedwig Go Ape yn cynnig gwefr yn yr awyr sy’n cynnwys Siglen Tarzan mwyaf y DU, ac mae Margam Park Adventure yn cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored.

Nesaf mae Parc Gwledig y Gnoll yng Nghastell-nedd, sydd ar hyn o bryd yn destun peth gwaith adnewyddu i wella profiad yr ymwelydd. Mae’r parc hwn, er ei fod yn llai na Margam, yn cynnig golygfeydd hardd a rhai cerfweithiau pren unigryw sy’n aros i gael eu darganfod. Mae Parc Gwledig y Gnoll yn hafan i gerddwyr a’r rhai sy’n hoff o fywyd gwyllt ac mae’n cynnwys coetiroedd, llwybrau ar lan yr afon a digonedd o fannau i fwynhau amser tawel ym myd natur.

A’r parc olaf yw Parc Coedwig Afan. Dewch i ganfod llwybrau beicio mynydd enwog, llwybrau cerdded gydag arwyddion a theithiau beicio addas i’r teulu wedi’u gosod yn erbyn cefnlen hardd Cwm Afan. Mae Parc Coedwig Afan yn berffaith ar gyfer anturiaethau i’r teulu. Gyda chyfleusterau gwych a siopau beics ynghyd â thywyswyr beicio mynydd lleol a gwasanaethau hyfforddi, allai mynd ar eich beic yn Afan ddim bod yn haws.

Dechreuwch eich Antur Heddiw

Mae parciau gwledig Castell-nedd Port Talbot yn aros i’ch croesawu chi. Gyda’r Pàs Pob Parc mae crwydro di-ben-draw, golygfeydd bythgofiadwy a dyddiau allan hyfryd i gyd yn aros amdanoch. Bachwch eich pàs, paciwch eich esgidiau cerdded a phrofwch galon ddramatig Cymru fel erioed o’r blaen.

Mynnwch eich Pàs Pob Parc nawr a dechrau ar eich antur heddiw!