Gyda’r blodau’n llawn lliw, yr haul yn gwenu (gan fwyaf) a’r ŵyn bach yn prancio – mae Castell-nedd Port Talbot yn llawn bywyd ar ôl trwmgwsg y gaeaf!
Mae’n gallu bod yn anodd meddwl am lawer o syniadau am anturiaethau dros wyliau’r Pasg a hanner tymor mis Mai i gadw’r plantos yn hapus, yn enwedig os ydych chi’n cynllunio taith ar gyllideb dynn. Yn ffodus, rydyn ni wedi’n hamgylchynu gan olygfeydd godidog sy’n golygu bod sicrwydd y byddwch yn profi rhywbeth arbennig bob tro y byddwch yn gadael eich gwesty, eich bwthyn gwyliau neu’ch maes gwersylla.
Os ydych chi’n chwilio am weithgareddau llawn hwyl i’r teulu y gwanwyn hwn, mae rhywbeth i chi fan hyn. Darllenwch ymlaen i ganfod ein hawgrymiadau!
Parciau Gwledig
Mae diwrnod allan yn un o’n parciau gwledig gwych yn rhywbeth y bydden ni bob amser yn ei argymell. P’un a ydych chi’n teimlo fel mynd am dro braf neu gael paned o goffi, mae rhywbeth yma i bawb ei fwynhau.
Starting off with Margam Country Park, it’s famous for its historic castle, herds of deer, and scenic walking trails.
Os oes gennych chi blant sy’n hoffi gwefr yn eich teulu, byddan nhw wrth eu bodd yn profi popeth sydd gan Barch Gwledig Margam i’w gynnig. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys Saethyddiaeth, llogi go-certi, padl fyrddio ar eich traed, caiacio a llawer, llawer mwy!
I deuluoedd sydd â phlant iau, mae Trên Parc Margam yn berffaith i eistedd arno a gwylio’r byd yn mynd heibio. Mae’r trac yn troelli o gwmpas y parc gan gynnig golygfeydd bendigedig o’r llyn, y castell a’r tiroedd ehangach.
Ar ôl i chi fwynhau eich taith ar y trên, fyddai dim un ymweliad â Margam yn gyflawn heb fynd i ddilyn Llwybr y Fferm. Cewch gwrdd â’r anifeiliaid cyfeillgar a’u bwydo hyd yn oed gan ddefnyddio’r gorsafoedd bwydo!
I weld rhestr o’r digwyddiadau sydd i ddod ym Margam, cliciwch fan hyn.
Parc arall rydyn ni wrth ein bodd yn ymweld ag ef yw Parc Gwledig Gnoll yng Nghastell-nedd. Mae gwaith adnewyddu’n cael ei wneud yno ar hyn o bryd i foderneiddio’r cyfleusterau i ymwelwyr, ond mae’n dal ar agor ac yn cynnig llwybrau cerdded hyfryd drwy’r coed. Gyda chaffi dros dro, mae modd i chi gael coffi o hyd a cherdded o gwmpas y llynnoedd gyda’ch plantos gan weld yr hwyaid sy’n byw yno a mwynhau amser allan ym myd natur.
Anturiaethau Glan Môr
Ydy gwyliau’n wyliau o gwbl heb daith i lan y môr? Llenwch eich car gyda’r tywelion traeth, bwcedi a rhawiau, ac atalwyr gwynt ac ewch gyda’ch teulu i lawr i Draeth Aberafan am ddiwrnod llawn hwyl.
I’r rhai sy’n chwilio am adrenalin, beth am fynd ar yr Olwyn Fawr, sydd ar agor tan fis Medi: gallwch weld ar draws Bae Abertawe ar hyd y ffordd i’r Mwmbwls! Wedyn beth am fynd â’r plantos i Ffair Hwyl Studt, sydd ar agor ar Draeth Aberafan tan 27ain Ebrill.
Os yw’r ffair yn eu cynhyrfu’n ormodol, does dim byd gwell na mynd am dro ar hyd y traeth yn chwilio am gregyn a thrysorau eraill sydd wedi’u golchi i’r lan. A galwch i mewn yn un o’r bwytai niferus ar lan y môr am ddanteithion blasus!
Ewch i’r Mynyddoedd
Am wyliau actif, does dim angen edrych ymhellach na Pharc Coedwig Afan.
Gyda dewis helaeth o lwybrau cerdded a beicio mynydd, yn ogystal â maes gwersylla, mae’n cynnig y ddihangfa awyr agored berffaith i deuluoedd sy’n mwynhau treulio amser ynghanol byd natur.
Wedi’u lleoli yn harddwch Cwm Afan, gallwch adael pwysau bywyd bob dydd tu cefn i chi wrth i chi ddianc i’r wlad a datgysylltu oddi wrth weddill y byd. Gyda beiciau ar gael i’w llogi, yn ogystal â chyfarpar arall i’w llogi hefyd, peidiwch â phryderu os nad ydych chi wedi dod â’r offer – mae gan Barc Coedwig Afan bopeth ar eich cyfer!
Am ragor o wybodaeth ar y cyfleusterau sydd ar gael yn y parc, cliciwch fan hyn.