Mae Castell-nedd Port Talbot yn llawn harddwch, o’r mynyddoedd tonnog i’r traethau eang. Mae’n faes chwarae antur naturiol i deuluoedd sydd am fwynhau yn yr awyr agored a byddai cyfle’n cael ei golli drwy ddim ond gyrru drwy’r ardal ar y draffordd heb aros a threulio amser yno.
Dewch i estyn eich coesau a mwynhau mynd am dro drwy ein cefn gwlad gan fwynhau’r golygfeydd a dod i adnabod y bobl ddiddorol sy’n llenwi’r lle gyda phersonoliaeth. Os gwnewch chi hyn byddwch yn sylweddoli’n fuan pam bod y rhan yma o’r byd yn lle arbennig dros ben.
Beth am edrych ar sut y gallwch ddod i adnabod Castell-nedd Port Talbot yng ngogoniant y gwanwyn.
Cerddwch Filltir yn ein Hesgidiau Ni
Maen nhw’n dweud mai’r ffordd orau i ddod i adnabod rhywun yw cerdded milltir yn eu hesgidiau nhw, felly gwisgwch eich esgidiau cerdded ac anelwch am ein llwybrau!
Dydyn ni ddim yn galw’n hunain yn Galon Ddramatig Cymru heb reswm, a phan fyddwch chi’n dechrau crwydro drwy’n tirweddau amrywiol, byddwch chi’n deall pam. Lle arall allwch chi weld y cyferbyniad hardd rhwng natur a rhyfeddodau o law dyn? Olwynion dŵr a llwybrau cerdded, camlesi a pharciau gwledig, llwybrau arfordirol a phlastai cefn gwlad – maen nhw i gyd yn siapio ein rhanbarth.
Mae’n llwybrau cerdded ar gyfer pawb felly gallwch eu mwynhau’n gyfan gwbl ar eich cyflymder eich hun.
Rydyn ni wedi creu map rhyngweithiol o’n llwybrau cerdded i gyd, a gallwch ei weld fan hyn. Mwynhewch eich taith gerdded!
Breuddwyd Beicwyr Ffordd
Lonydd troellog, disgyniadau gwefreiddiol a dringo caled, mae gennym bopeth y mae beicwyr ffordd yn ei garu – yn cynnwys y caffis pwysig yna i’ch adfywio!
Mae gennym ein ‘Tour de Cinq Vallees’ hyd yn oed, ras ffordd 70 milltir sy’n dilyn rhai o’r dringfeydd mwyaf eiconig yn Ne Cymru, wedi’i ddyfeisio gan Port Talbot Wheelers yn 1958.
Os ydych chi’n feiciwr mwy hamddenol, mae Castell-nedd Port Talbot yn gartref i amrywiaeth eang o lwybrau beicio diogel sy’n berffaith i deuluoedd, yn cynnwys llwybrau ar hyd hen lwybrau rheilffyrdd a llwybrau tynnu tawel ar hyd y gamlas.
Dewch o hyd i’n uchafbwyntiau beicio fan hyn.
Gweithgareddau i Bawb
Pan fyddwn ni’n dweud eich bod yn gallu gweld a gwneud popeth yng Nghastell-nedd Port Talbot, rydyn ni wir yn golygu hynny!
Os ydych chi’n ymweld â’r ardal Gyda theulu neu ffrindiau, mae amrywiaeth eang o weithgareddau y gallwch chi eu mwynhau fel grŵp. I’r rhai sy’n chwilio am wefr, bydd llwybrau beicio mynydd enwog Parc Coedwig Afan yn bendant yn gwneud i’ch calon guro’n gyflymach! I gael mwy o wefr fyth, beth am anelu am yr uchelderau yn Go Ape ym Mharc Gwledig Margam?
I’r rhai sy’n hoffi’r dŵr, fyddai dim taith i’r ardal yn gyflawn heb ymweld â Thraeth Aberafan. Mae’r traeth tywod eang yn berffaith ar gyfer teuluoedd sy’n gobeithio cael diwrnod heulog i ymlacio ac mae tonnau’r môr yn wych ar gyfer syrffio neu gorff-fyrddio.
Os oes well gennych chi fynd ar y dŵr mewn canŵ neu gaiac, bydd y South Wales Adventure Company yn Resolfen yn hapus i fynd â’ch grŵp allan am sesiwn.
Pe bydden ni’n rhestru’r holl weithgareddau y gallech chi eu gwneud a’r llefydd y gallech chi eu gweld, bydden ni yma drwy’r dydd! Gallwch weld ein rhestr gyflawn fan hyn – gadewch i’ch synnwyr o antur arwain y ffordd y gwanwyn hwn.