Rydyn ni’n swyddogol yn cychwyn Gŵyl Gerdded y Gaeaf i annog pobl i fynd i’r awyr iach a dod i adnabod y DU yn ei harddwch gaeafol.
Mae’r ŵyl yn digwydd rhwng 17 Rhagfyr a 1 Ionawr ac mae’n gyfle i deuluoedd, ffrindiau ac unrhyw un sy’n mwynhau cerdded i brofi’r gorau o harddwch naturiol Prydain.
Ac yma yng Nghalon Ddramatig Cymru mae gennym ddigonedd o harddwch naturiol ar gael i’w fwynhau wrth gerdded.
Felly os ydych chi’n chwilio am lefydd i gerdded yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ystod Gŵyl Gerdded y Gaeaf dyma bum taith ym mhob un o’m pum cwm, yn addas ar gyfer pob gallu…
Cwm Afan – Taith Rhyslyn
Mae’r daith hon ar hyd yr afon yn un hawdd sy’n berffaith ar gyfer teuluoedd sydd eisiau mwynhau’r golygfeydd.
Mae’n cymryd ychydig dros awr i’w chwblhau ac mae’n 2.2 milltir sy’n wastad am y rhan fwyaf o’r ffordd.
Mae’n cychwyn ym Maes Parcio Rhyslyn ac yn mynd i lawr at y llwybr. O’r fan honno gall cerddwyr ddilyn i fyny’r Afon Afan a mwynhau rhai o fannau tlws a thawel y daith wrth iddyn nhw gerdded drwy’r coed.
Wrth y bont bren mae llethr fechan ac yna bydd y cerddwyr yn anelu’n ôl i lawr i Rhyslyn lle gallan nhw gerdded ar hyd trywydd hen reilffordd gan fwynhau golygfeydd o’r afon a’r mynyddoedd.
Wrth gychwyn ar y daith yn ôl byddan nhw’n teithio ar hyd rhan o Daith Sant Illtyd, sy’n cofio’r sant o Gymru ddiwedd y 5ed/dechrau’r 6ed ganrif, ac efallai y byddan nhw’n gweld adar fel y Llinos Werth a’r Dryw Eurben.
Dysgwch ragor fan hyn.
Cymoedd Nedd – Camlas Castell-nedd, Resolfen i Lyn-nedd
Mae’r daith hawdd 5.4 milltir hon yn cymryd rhyw ddwy awr a hanner gan fwynhau golygfeydd hamddenol glannau’r gamlas.
Mae hon yn daith wastad sy’n ei gwneud hi’n addas i bawb ei mwynhau, a gallwch gychwyn o’ r maes parcio wrth y gylchfan ar yr A465 yn Resolfen, ar y ffordd i fyny Cwm Nedd.
Wrth i chi gerdded ar hyd y gamlas fe welwch nifer o lociau sy’n dyddio’n ôl i gyfnod cynnar ei threftadaeth ddiwydiannol pan fyddai’r gamlas yn cael ei defnyddio i gludo deunyddiau o lofeydd yr ardal.
Roedd y camlesi’n cael eu defnyddio fel ffurf hanfodol o gludiant i ddiwydiannau ledled yr ardal cyn i’r rheilffyrdd eu disodli.
Unwaith y byddwch yn cyrraedd yr odynau calch gwnewch yn siŵr eich bod yn mwynhau golygfeydd yr ardal cyn cychwyn ar eich taith yn ôl. A chofiwch gadw llygad am Was Neidr yr Ymerawdwr, y Llafnlys Mawr gyda’i flodau melyn mawrion, a Glas y Dorlan.
Dysgwch ragor fan hyn.
Cwm Dulais – Taith Gylch Sarn Helen
Mae’r daith hon yn cael ei hystyried yn anoddach gyda llethrau i fyny ac i lawr yn rhan o’r llwybr 2.9 milltir, sy’n cymryd tua awr a 45 munud i’w chwblhau.
Bydd cerddwyr sy’n dilyn y B4242 yn gweld yr arwydd llwybr cyhoeddus ar gyfer cychwyn y daith hon ar y chwith.
Gan gychwyn ar waelod y Ffordd Rufeinig, Sarn Helen, mae’r daith yn cychwyn gyda 1km o ddringo cyson lle byddwch yn gweld tir fferm a choetiroedd ac efallai y byddwch hyd yn oed yn gweld barcud coch.
Wrth i chi droi i’r chwith wrth y grid gwartheg byddwch yn gweld rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd y daith ar draws Cwm Nedd. Os byddwch yn dal i fynd i Goedwig Craig Ynysbwllog cewch eich gwobrwyo drwy gyrraedd rhaeadr fach dlws yn y pen draw.
Yn dilyn y disgyniad serth i lawr i’r ffordd, trowch i’r dde i ddilyn y ffordd yn ôl i’r man cychwyn, gan basio tafarn y Rock and Fountain ar eich ffordd.
Dysgwch ragor fan hyn.
Cwm Tawe – Taith Bywyd Gwyllt Cwm Tawe
Mae’r daith hawdd 5.9 milltir hon yn eich tywys ar lwybr cylch hamddenol ar hyd camlesi a thrwy goetiroedd.
Byddwch yn cerdded am ryw dair awr ar hyd llwybr tynnu’r gamlas, gan fynd i gyfeiriad y gogledd.
Ar hyd y ffordd byddwch yn gweld olion o dreftadaeth y gamlas yn dyddio’n ôl i’r 1790au gan weld nodweddion yn cynnwys ei 36 lloc a phontydd carreg. Bydd cyfle hefyd i sylwi ar fywyd gwyllt diddorol ar ôl i’r ardal gael ei dynodi’n Warchodfa Natur Leol.
Ar y ffordd yn ôl mae’r llwybr yn dilyn y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (llwybr 43) drwy Goed Cwm Tawe ac yn ôl i Bontardawe.
Dysgwch ragor fan hyn.
Cwm Aman Uchaf – Taith Trac Trotian
Mae’r daith gylch hawdd 1.8 milltir hon yn daith ddymunol sy’n dangos sut mae natur wedi adennill yr ardal hon oedd unwaith yn hynod ddiwydiannol.
Gall cerddwyr gychwyn yn y maes parcio ar Heol Llwyncelyn a throi i’r chwith i ymuno â’r llwybr ychydig heibio’r afon. Byddwch wedyn yn dilyn y cyfeirbwyntiau mewn cylch cyn troi i’r dde a dilyn Heol Hir / Heol Colbren Uchaf am ychydig dros 300m cyn troi i’r dde eto a dilyn y cyfeirbwyntiau yn ôl i’r maes parcio.
Yn ystod y daith byddwch yn gweld sut mae tomen rwbel wedi’i gwastatáu wedi cael ei thrawsnewid yn Drac Trotian, sydd bellach yn gylch rasio harnais o’r radd flaenaf.
Bydd y daith yn mynd â chi drwy ardaloedd o fioamrywiaeth gyfoethog yn cynnwys coetiroedd, glaswelltir a thir llwyd.
Dysgwch ragor fan hyn.
Felly yn ystod Gŵyl Gerdded y Gaeaf beth am wisgo eich esgidiau cerdded a dod am dro i Galon Ddramatig Cymru, mae rhywbeth yma ar gyfer pawb a byddwch yn sicr o greu atgofion hyfryd y Rhagfyr hwn. Chwiliwch am fwy o deithiau cerdded ar ein gwefan gyda’n canllaw defnyddiol sy’n caniatáu i chi chwilio am deithiau yn ôl eu hyd, eu lleoliad a’u lefel anhawster.



