Ble i fwyta

Mae nosweithiau hir y gaeaf yn cynnig digonedd o gyfleoedd i fwynhau bwydydd lleol a chael prydau bwyd gwych yn rhai o fannau bwyta niferus Calon Ddramatig Cymru.

Does yr un gwyliau gartref yn y DU yn gyflawn heb fwynhau cinio dydd Sul, ac mae’n rhanbarth ni’n llawn o dafarnau a bwytai cysurus ymhob twll a chornel. Ewch i’r ffefrynnau lleol ar gyfer cerfdy gyda’r holl drimins yn The Dyffryn Arms ym Mryncoch, Tafarn yr Afan yng Nghwmafan, neu’r Colliers Arms ym Mhontyrhydyfen.

Dafliad carreg o’r rhaeadrau cyfagos, mae Sgwd Gwladys Bistro yng Nglyn-nedd yn croesawu fforwyr y gaeaf ac mae ganddo ffryntiad carreg hardd, yn gweini bwyd Cymreig lleol ar gyfer profiad bwyta trochi.

Chwiliwch ar ein tudalennau Bwyd a Diod i ddod o hyd i’ch hoff fwyty gaeaf, gydag opsiynau i chwilio yn ôl lleoliad a math o fwyd.