Llefydd i ymweld â nhw

Manteision gaeaf yng Nghymru? Digon o law i raeadru drwy welyau afonydd a thros greigiau, gan greu'r olygfa ysblennydd sy'n eich disgwyl yn Sgwd Rhyd-yr-Hesg.

Efallai nad yw’r gaeaf yn enwog am dywydd sy’n berffaith ar gyfer cerdded, ond gyda’r dillad a’r esgidiau cerdded cywir gallwch fwynhau harddwch y sgydiau hynafol sydd i’w canfod yng Nghwm Nedd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn lapio’n gynnes a pheidiwch â mynd i mewn i’r dŵr.

Os yw diwylliant uchel yn fwy o beth i chi nag esgidiau cerdded, ewch i Abaty a Cherrig Margam ym Margam neu Neuadd Gwyn o oes Fictoria Castell-nedd i ymgolli mewn hanes, celf a diwylliant.

Mae Ystâd Parc Gwledig Margam ar agor drwy gydol y flwyddyn, yn croesawu ymwelwyr i ganfod hanesion un o deuluoedd amlycaf Cymru a’u heffaith ar y gymuned leol drwy gydol y chwyldro diwydiannol. Mwynhewch grwydro drwy diroedd eang yr ystâd, yr orendy a’r Abaty cyfagos i deithio’n ôl mewn amser.

Pan fyddwch yn ymweld â Chalon Ddramatig Cymru gofynnwn i chi wneud addewid i barchu’r dirwedd a’r cymunedau y byddwch yn ymweld â nhw.