Pethau i'w gwneud
Dewch o hyd i ddigon o anturiaethau ym misoedd yr Gaeaf yn y Galon Ddramatig Cymru.
Gwlad o wrthgyferbyniadau yw’n gwlad ni, a gall eich ymweliad fod yr un fath; cewch orffwys o flaen tân cynnes y dafarn leol cyn lapio’n glyd i fynd am dro iach ar lan y môr, a mwynhau’r cyfan y gall ein tirwedd ei gynnig hyd yn oed wrth i’r gaeaf gau amdanom ni.
Mae Glan Môr Aberafan yn parhau i fod yn brydferth dan awyr rhewllyd, gyda’i draeth tywodlyd 3 milltir o hyd yn denu trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd am dro braf. Mae croeso i gŵn ar draeth Aberafan drwy gydol misoedd y gaeaf, felly gallwch fwynhau antur gyda’ch cyfeillion blewog ym mhob tywydd.
Ydych chi’n chwilio am brofiad mwy ymlaciol? Dewch i mewn i’r tir ac ewch i’r gorllewin o Draeth Aberafan, ac fe welwch eich hun ar garreg drws Gwesty a Sba Towers yn Jersey Marine. Mae’n cynnig dewis o driniaethau moethus a bwydydd o ansawdd da, gallwch ymlacio ac ymadfer ar noson oer o’r gaeaf.
Efallai y bydd dilynwyr y sinema yn ddigon craff i adnabod tirwedd eiconig Calon Ddramatig Cymru sydd wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau. Mae ein Llwybr Set Ffilm yn gadael i chi gerdded yn ôl traed actorion cwlt-clasurol a hoff gymeriadau ffans. Cewch eich cludo i fyd cyfriniol His Dark Materials ym Mharc Gwledig Margam a chlywed atsain barddoniaeth felodaidd Richard Burton ger Traphont Ddŵr Pont-rhyd-y-fen a gallwch ailberfformio eich hoff olygfeydd o Twin Town ar draws Port Talbot.