Anturiaethau Epig
Bydd y fflora a'r ffawna yn ein parciau, yn garpedi yn ein coetiroedd ac yn ymestyn ar hyd glannau ein hafonydd yn codi unrhyw ymwelydd allan o'i gwsg gaeafol.
Mae bywyd gwyllt yn ffynnu ar y glaswelltir eang, corsiog ar flaenau’r cymoedd yma yng Nghalon Ddramatig Cymru. Cerddwch ar gopaon y bryniau ac edrychwch am y gloÿnnod byw blaen oren wrth iddyn nhw ddodwy eu hwyau ar y blodyn llefrith pinc, cain.
Yng Ngwarchodfa Natur Pant-y-Sais yn Jersey Marine, fe welwch fadfallod byw yn torheulo yn haul y gwanwyn. Mae modd gweld y rhedynen gyfrdwy hynafol unrhyw adeg o’r flwyddyn yn y warchodfa – mae’r rhywogaeth wedi aros yn ddigyfnewid am dros 180 miliwn o flynyddoedd, wedi sefyll profion amser.
Yr hyn sy’n gwneud ein tirwedd mor unigryw yw’r cyferbyniad trawiadol rhwng byd natur a diwydiant; Mae ein safleoedd gwastraff glofeydd nid yn unig yn dal rhaeadrau a choetiroedd, maent hefyd yn dangos yr adfywiad anhygoel o gynefin a welsom yn y cenedlaethau yn dilyn y Chwyldro Diwydiannol.
Mae’r mathau o bridd yn safleoedd rwbel y pyllau glo yn dynwared cynefinoedd twyni tywod, sy’n golygu y gallwn ddod o hyd i rywogaethau arfordirol ymhellach i’r mewndir. Sylwch ar yr ehedydd, gwiberod, chwilod teigr gwyrdd a mwy wrth i chi grwydro ar hyd dyffrynnoedd afonydd Bryn a Chwmafan neu driniaethau dŵr Tonmawr yng Nghimla.
Gall gwyddonwyr naturiol brwd hefyd olrhain taith Alfred Russel Wallace, ymchwilydd arloesol a chyfoed Charles Darwin, a dreuliodd bum mlynedd o’i fywyd yng Nghastell-nedd. Fe honnodd fod y sir wedi cynnau fflam ei ddiddordeb yn y byd naturiol, a bellach gallwch ymweld â’r safleoedd a’i hysbrydolodd fwyaf wrth Ddilyn Ôl eu Traed: Llwybr Alfred Russel Wallace.
Dewch o hyd i ragor o weithgareddau a safleoedd o harddwch naturiol fan hyn.