Wrth i’r dyddiau fyrhau a’r aer yn troi’n finiog, mae Calon Ddramatig Cymru’n dechrau dangos llewyrch goleuni meddalach
Mae boreau’n dod wedi’u lapio mewn niwl a’r prynhawniau wedi’u peintio’n aur. Mae’n dymor i arafu; dod o hyd i gynhesrwydd, cysur a’r teimlad digamsyniol o fod gartref oddi cartref.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae’r bryniau a’r cymoedd yn cynnig mwy na golygfeydd rhyfeddol – maen nhw’n eich gwahodd i ymlacio. P’un a ydych chi’n breuddwydio am noson o flaen y tân ar ôl cerdded drwy’r goedwig, neu am noson hamddenol yn gwrando ar y glaw’n taro’r ffenestr yn ysgafn, fe ddewch o hyd i’ch dihangfa berffaith fan hyn.
Porthdy Bryn Betws
Yn swatio’n ddwfn ym Mharc Coedwig Afan, mae Porthdy Bryn Betws yn guddfan groesawgar lle mae’r awyr agored yn cwrdd â holl gysuron cartref. Gyda chymysgedd o gabanau pren cysurus, ystafelloedd porthdy a hyd yn oed byncws, mae’n lle perffaith ar gyfer popeth o aduniadau teulu i anturiaethau grŵp.
Dewiswch o blith pedwar caban pren gwledig, pob un â lle i hyd at bump gwestai (un gyda thwba twym i ychwanegu’r gwres ar noson oer o Dachwedd), neu ewch i un o’r naw ystafell yn y prif borthdy, gyda lle i rhwng dau a chwech o bobl. Gall grwpiau mwy wneud eu hunain yn gartrefol yn y byncws, gyda lle i hyd at 18 o bobl – delfrydol ar gyfer cerddwyr, beicwyr neu ffrindiau sy’n chwlio am ddihangfa yn y goedwig.
I’r rhai sy’n mwynhau symlrwydd cysgu o dan y sêr, mae gwersyllfa dawel ar y safle hefyd, gyda chyfleusterau cawod a thoiledau.
Ar ôl diwrnod yn crwydro’r llwybrau a mwynhau’r golygfeydd ysblennydd, does dim byd gwell na dod yn ôl at dân croesawgar, pryd o fwyd twym a llonyddwch y goedwig y tu allan i’ch ffenestr. Bryn Betws yw lle mae’r antur yn gorffen ac ymlacio llwyr yn cychwyn.
Llety Tŷ Bryn Teg
Yng nghanol pentref Cymer, wedi’i amgylchynu gan fryniau euraidd Cwm Afan, mae Llety Tŷ Bryn Teg yn cynnig tri bwthyn destlus sy’n gwneud lleoliad gwych ar gyfer gwyliau ym mis Tachwedd.
Dyma rywle lle mae antur a chysur yn cwrdd. Treuliwch eich dyddiau’n beicio ar y llwybrau beicio mynydd o safon byd, yn crwydro ar hyd lwybrau’r goedwig gyda dail yr hydref yn crensian neu yn canfod hanes cyfoethog y cestyll a’r sgydau cyfagos. Wedyn dewch yn ôl i gynhesrwydd, cysur a murmur tawel y cwm y tu hwnt i’ch ffenestri.
P’un a ydych chi’n feiciwr mynydd brwd, yn un sy’n mwynhau crwydro ar benwythnosau neu’n rhywun sy’n caru’r awyr finiog a nosweithiau clyd, mae gan Dŷ Brynteg bopeth sydd ei angen arnoch am wyliau bythgofiadwy yn yr hydref neu’r gaeaf.
Cilpentan Bach
Yn sefyll ar ochr bryn ger Pontardawe, mae Cilpentan Bach yn fwthyn hunan gynhaliol gyda swyn a chymeriad ym mhob cornel. Mae wedi’i ddylunio mewn arddull “wyneb i waered” i fanteisio’n llawn ar y golygfeydd gwych o’r cwm, mae dwy ystafell wely ac ystafell wlyb ar y llawr gwaelod gyda gofod byw cynllun agored yn y llofft, ynghŷd â chegin gyda’r holl gyfarpar a drysau Ffrengig yn agor at falconi Juliet.
Mae Cilpentan Bach drws nesaf i fferm fynyddig gyda defaid a gwartheg ac mae’n cynnig blas gwirioneddol o fywyd cefn gwlad Cymru. Mae’r tyddyn yn ymestyn o’r iard at gaeau, dolydd a choetir. Cadwch lygad am farcudiaid coch yn cylchu uwchben, cnocellau’r coed yma a thraw a hyd yn oed ambell i ddyfrgi neu ysgyfarnog ar hyd y nant wrth iddi ymdroelli i gyfeiriad dôl sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).
Ar foreau oerllyd, bydd niwl yn gorwedd yn ysgafn dros y caeau lle mae caseg Arab, merlen yr Ucheldir a geifr busneslyd y teulu’n pori’n hamddenol. Tu fewn, fe gewch chi gynhesrwydd, goleuni a’r math o lonyddwch sy’n gwneud i amser arafu. Mae’n lle perffaith i swatio ger y tân, gwrando ar y glaw ar y to, a theimlo’n gwbl gartrefol yng nghalon cefn gwlad.
Gwersyllfa Willow Springs
Am rywbeth ychydig yn wahanol, anelwch am Wersyllfa Willow Springs yng Nghwm Afan. Mae’r safle eco-gyfeillgar hwn yn dod â chi’n nes at natur heb adael cysur ar ôl.
Arhoswch mewn pod glampio cysurus neu mewn pabell dan y sêr. Cyneuwch dân, tostiwch falws melys ac anadlwch awyr iach y mynydd. Wrth iddi nosi, cofiwch edrych i fyny! Mae hon yn ardal awyr dywyll, yn cynnig cyfleoedd syfrdanol i weld y sêr ar y canopi disglair uwch y cwm.
Mae’n syml, mae’n dawel, ac mae’n union beth mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn galw amdano.
Wrth i’r hydref drio’n aeaf yng Nghalon Ddramatig Cymru, mae’r rhanbarth yn eich cofleidio i arafu, i geisio cynhesrwydd ac i ailddarganfod yr hapusrwydd mewn pethau bach; aelwyd groesawgar, pryd o fwyd i’w rannu neu awyr yn llawn sêr.
P’un a fyddwch chi’n dewis coedwig, arfordir, cefn gwlad neu fynydd, mae pob arhosiad yma’n cynnig darn o dangnefedd ac ychydig o hud. Felly paciwch eich siwmper mwyaf clyd, dewch â’ch synnwyr o antur a dewch o hyd i’ch dihangfa berffaith o flaen y tân yma yng nghalon De Cymru.