Gwyliau Gartref yng Nghalon Ddramatig Cymru

Pan fyddwch chi’n dewis cynllunio eich gwyliau gartref yng Nghalon Ddramatig Cymru, rydych chi’n dewis rhan o’r byd sy’n wahanol i unrhyw le arall.

Gyda mynyddoedd uchel, camlesi tawel, sgydau hardd, safleoedd hanesyddol, canol trefi prysur a thraeth tywod eang, mae Castell-nedd Port Talbot yn addo anturiaethau lle bynnag y byddwch yn mynd.

Beth bynnag sy’n well gennych chi, pabell neu garafán, gwely a brecwast neu dŷ bynciau, mae’n hardal ni’n lle perffaith i aros er mwyn dod i adnabod ein rhanbarth cyfan.

Dyma rai o’n hoff lefydd ar gyfer gwyliau gartref:

 

Porthdy Bryn Betws

Mae Porthdy Bryn Betws wedi’i leoli yng Nghoedwig Afan, ac mae pedwar caban pren yno gyda lle i bump o bobl i gysgu ym mhob un. Mae Byncws ar gael hefyd gyda lle i 18 o bobl, ac mae naw ystafell yn y prif borthdy gyda lle i rhwng 2 a 6 o bobl ym mhob ystafell.

Mae croes o gŵn ym Mhorthdy Bryn Betws, ac mae’n wych ar gyfer pobl sy’n caru’r awyr agored, gyda nifer o lwybrau cerdded a beicio mynydd o fewn tafliad carreg. Un o’r llwybrau hyn yw Llwybr Man Geni Richard Burton, sy’n eich arwain drwy bentref hyfryd Pontrhydyfen. Gan fod eleni’n ganmlwyddiant geni Richard Burton, byddai talu teyrnged i’w etifeddiaeth drwy fynd am dro ar hyd y llwybr hyfryd hwn yn rhan berffaith o’ch dydd!

Mae’r busnes hwn, sy’n cael ei redeg gan y teulu, wedi bod yn darparu profiadau bythgofiadwy i deuluoedd am bymtheg mlynedd ac maen nhw wedi cymryd camau i sicrhau bod gwesteion yn derbyn sylw arbennig, gyda bwyty a bar ar y safle.

Dysgwch ragor fan hyn.

 

Maes Carafanau a Gwersylla Fferm Tŷ Canol

Mae Fferm Tŷ Canol yn ei deuddegfed flwyddyn bellach, ac mae’n fferm gyfeillgar, yn cael ei rhedeg gan y teulu, gyda mynediad hawdd i’r M4.

Er ei fod mor agos at y cysylltiadau teithio cyfleus, mae’r maes gwersylla yn swatio ynghanol y wlad ac mae’n mwynhau’r holl fanteision sy’n dod yn sgil hynny. Dychmygwch gael eich deffro gan yr adar yn canu, a syrthio i gysgu tra’n gwylio’r sêr.

Gyda thaith gerdded ar hyd yr afon a sgwd o fewn pum munud o gerdded o’r safle, yn ogystal ag adfeilion ysblennydd Abaty Nedd, mae encil yn y fan hon yn gwarantu dedwyddwch tangnefeddus.

Dewch o hyd i ragor fan hyn.

 

Gwesty a Sba’r Tŵr

Mae Gwesty a Sba’r Tŵr wedi’i leoli’n gyfleus yn agos i gyffordd 42 o’r M4 a gallwch fwynhau yn ei bwll nofio dan do gyda sawna, ystafell stêm a jacuzzi.

Gyda digon o lefydd parcio, mae’r gwesty hefyd yn cynnig amrediad llawn o driniaethau harddwch a phecynnau sba ar gyfer y gwyliau gartref ymlaciol perffaith.

Mae’r bwyty a-la-carte ar y safle yn darparu brecwastau, cinio canol dydd a phrydau gyda’r nos gan fwydo eich archwaeth am antur wrth i chi ddod i adnabod Calon Ddramatig Cymru.

I gael gwybod mwy am y gwesty, cliciwch fan hyn.

 

Lle bynnag y byddwch yn dewis aros, gallwn eich sicrhau y bydd yr amser a dreuliwch yma yn llawn o brofiadau bythgofiadwy, bwydydd blasus ac atgofion i bara oes.

Gallwch weld ein dewis llawn o ddarparwyr llety, wedi eu dewis yn ofalus, fan hyn er mwyn cynllunio eich gwyliau perffaith yn Ne Cymru.