Antur yn eich disgwyl ym mhob twll a chornel, teithiau i ganfod llefydd newydd ac aros i fyny’n hwyr gyda’r oedolion; roedd gwyliau’r haf bob amser yn teimlo’n llawn hud pan oedden ni’n iau, a hynny am eu bod nhw’n wirioneddol hudolus.
Chwech wythnos o atgofion yn barod i gael eu creu yn ymestyn o’n blaenau, a Chalon Ddramatig Cymru yw’r lle perffaith i’r munudau craidd hyn gael eu ffurfio.
P’un a ydy’ch plant yn rhai sy’n ceisio gwefr neu am gyfle i ymlacio, mae harddwch ein cymoedd a’n mynyddoedd yn golygu fod yna rywbeth y bydd pawb yn ei fwynhau yma, hyd yn oed eich cŵn bach! Darllenwch ymlaen i ganfod beth sy’n eich disgwyl yng Nghalon Ddramatig Cymru dros wyliau’r haf:
I’r rhai sy’n ceisio gwefr:
Os yw eich gwyliau teulu perffaith yn llawn o weithgareddau difyr fydd yn blino’r plantos yn gynnar er mwyn i chi gael mwynhau gwydraid o win mewn heddwch, yna mae gennym rai argymhellion allai eich siwtio i’r dim…
Gan gychwyn yn y pen dwfn, os ydych chi eisiau rhoi tro ar rywbeth newydd a’ch gwthio eich hun ychydig y tu hwnt i’ch parth cysur, yna bydden ni bob amser yn argymell Adventure Britain. Gadewch eich ffonau clyfar ar ôl ac anelwch am yr awyr agored.
Gall eu harbenigwyr dywys eich teulu drwy amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys cerdded ceunentydd, ogofa, dringo, canŵio a llawer mwy.
Os ydych chi’n hoffi’r syniad o ganŵio ond awydd ychydig o ymarfer gyntaf, trefnwch sesiwn gyda’r South Wales Adventure Company lle byddwch yn cael sylw unigol gan hyfforddwr ar gamlas dawel. Os yw camlas yn dal i’ch dychryn braidd ond eich bod yn dal eisiau concro chwaraeon dŵr, trefnwch wersi canŵio neu badlfyrddio gyda Margam Park Adventure – does dim byd haws na dysgu ar lyn.
Ddim yn rhy hoff o ddŵr? Peidiwch â phoeni, mae Calon Ddramatig Cymru’n enwog am yr amrywiaeth o lwybrau sy’n addurno ei bryniau a’i chymoedd. Anelwch am Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ac ewch ar y llwybrau beicio mynydd. Os nad ydych wedi dod â’r beiciau neu’r offer gyda chi, bydd Afan Valley Bike Shed yn darparu popeth sydd ei angen arnoch chi i wneud y profiad yn un diogel, cysurus a llawn hwyl! Wedyn bydd Base Wales yn darparu pryd o fwyd blasus i chi fydd yn eich gwneud yn barod ar gyfer eich antur nesaf.
I’r rhai sydd am ymlacio:
Pan ddaw hi’n wyliau haf, weithiau mae llai yn fwy. Mae’r wythnosau nesaf yn amser perffaith i arafu ac i ailgysylltu fel teulu, p’un ai drwy fynd am dro hamddenol neu drwy ymlacio ar y traeth.
Rydyn ni’n ddigon ffodus i fod â thri pharc ag achrediad y Faner Werdd yng Nghastell-nedd Port Talbot: Parc Gwledig Margam, Parc Gwledig Ystad y Gnoll a Pharc Gwledig Craig Gwladys. Mae’r mannau gwyrdd heddychlon hyn yn berffaith ar gyfer mynd am dro fel teulu, gweld bywyd gwyllt a mwynhau bod yn yr awyr iach gyda’ch gilydd. Mae cŵn yn cael eu croesawu ym mhob un o’r parciau, ond rhaid eu cadw ar dennyn mewn mannau penodol ym Mharc Gwledig Margam gan fod ceirw’n crwydro’n rhydd yno.
Lle braf arall i fynd am dro yw ar hyd Camlas Abertawe, yn benodol y pum milltir rhwng Clydach a Phontardawe. Mae hefyd yn rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, gan ei wneud yn berffaith ar gyfer teithiau beic yn ogystal â mynd am dro hamddenol.
I ychwanegu ochr ddiwylliannol i’ch gwyliau teulu hamddenol yng Nghalon Ddramatig Cymru, rydyn ni’n falch i fod yn gartref i nifer o safleoedd hanesyddol. Ewch i weld Abaty Margam, yr unig gorff o Abaty Sistersaidd sydd wedi goroesi yng Nghymru, ac Abaty Nedd, un o adfeilion pwysicaf mynachdai De Cymru. Rydyn ni hefyd yn gartref i Amgueddfa Glöwr De Cymru (rhywbeth gwych i’w wneud ar ddiwrnod glawog) ac i Gwaith Tun a Sgwd Aberdulais, sy’n un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Os oes gennych chi fwy o ddiddordeb mewn diwylliant modern, beth am fynd i weld Taith Gerdded Celf Port Talbot – llwybr celf stryd, yn rhad ac am ddim, gydag ap ffôn clyfar i gyd-fynd.
Rhywbeth i Bawb
Os oes gennych chi un sy’n ceisio gwefr ac un sydd am ymlacio, yna mae gennym y lle perffaith ar eich cyfer fydd yn ticio’r ddau flwch: traeth hardd Aberafan.
Gyda thair milltir o dywod wedi’i gynhesu gan yr haul yn cwrdd â’r môr, yn ogystal â digonedd o gyfleusterau ar hyd glan y môr, mae’n hafan i deuluoedd sydd am fwynhau diwrnod traddodiadol ar y traeth tra’u bod ar eu gwyliau.
Pe byddech chi’n rhedeg allan o bethau i’w gwneud ar y traeth, mae digon o weithgareddau i chi eu mwynhau yn cynnwys golff antur, parth Aqua Zone, y parc sglefrfyrddio yn ogystal â meysydd chwarae antur i blant bach a phlant hŷn. Gallwch fwynhau gwersi syrffio gyda Surf School Wales neu hyd yn oed fwynhau yoga ar y traeth.
Ynghanol y llefydd yma i gyd mae bwytai, caffis a thafarnau gwych yn swatio; bydd y rhain yn eich bwydo drwy gydol eich anturiaethau haf yng Nghastell-nedd Port Talbot. Gydag opsiynau llety i siwtio bob teulu – o wersylla i aros mewn gwesty – mae gan ein rhanbarth yr holl gynhwysion sydd eu hangen ar gyfer arhosiad cofiadwy yn Ne Cymru. Y cyfan sydd ei angen arnom ni yw chi!
Cynlluniwch eich ymweliad fan hyn: https://dramaticheart.wales/plan-your-visit-summer/