Anturiaethau Epig
Mae Calon Ddramatig Cymru yn enwog am ei weithgareddau llawn adrenalin a'i anturiaethau epig.
Yr haf yw un o’r adegau gorau ar gyfer profi hyn o hedfan drwy’r awyr ar wifren zip i ddringo mynyddoedd, cerdded ceunentydd i go-cartio, mae antur yma ar gyfer y teulu cyfan.
Mae Go Ape ym Mharc Gwledig Margam yn atyniad y mae’n rhaid i chi ymweld ag ef. Yma mae unig Her Brig y Coed Go Ape yn y DU a byddwch yn rhuthro drwy’r cwrs gyda gwifrau zip o hyd at 180m gan fwynhau golygfeydd o’r môr ar yr un pryd. Cofiwch gael tro ar Swing Tarzan mwyaf y DU tra’ch bod chi yno!
Rhowch gynnig ar gaiacio, canŵio, cyfeiriannu a saethyddiaeth yn Antur Parc Margam neu ymunwch ag Ysgol Syrffio Cymru am wers syrffio p’un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu’n rhywun sy’n ceisio hogi eich sgiliau.
Am benwythnos epig o antur, archebwch becyn gydag Adventure Britain a rhowch gynnig ar geunant, ogofa, dringo mynydd a beicio cwad i gyd dan gyfarwyddyd cwbl gymwys. P’un a ydych chi’n grŵp mawr neu’n ymweld gyda’ch teulu, mae gwyliau antur sy’n addas i bawb.
Gallwch ddod o hyd i’n holl weithgareddau antur fan hyn.