Ble i aros

Mae'r haf yng Nghalon Ddramatig Cymru yn golygu gwyliau teuluol a gwyliau byr antur yn yr heulwen braf.

Mae’r haf yng Nghalon Ddramatig Cymru yn golygu gwyliau teuluol a gwyliau byr antur yn yr heulwen braf.

Mae gennym amrywiaeth eang o lety o westai a darpariaeth gwely a brecwast i safleoedd gwersylla a bythynnod.

Ar gyfer grwpiau mwy, beth am Westy a Bwyty Blanco’s yng nghanol Port Talbot neu Westy a Sba’r Tŵr yn Jersey Marine.

Tymor yr haf yw’r adeg berffaith i wersylla. Gosodwch eich pabell yn Willow Springs neu dewch â’ch cerbyd gwersylla i Wersyllfa Glyncorrwg, y ddau yng Nghwm Afan ac yn agos at gyfleusterau beicio mynydd ffantastig.

Os ydych chi’n chwilio am lety Gwely a Brecwast gyda thipyn o gymeriad, beth am Adeiladau Fferm Ty’n Cellar. Mae’r llety 4* yn cynnwys darpariaeth Gwely a Brecwast a bythynnod gwyliau. Dim ond ychydig filltiroedd o Barc Gwledig Margam – mae’n lleoliad gwych i chi fwynhau eich gwyliau yng Nghalon Ddramatig Cymru.

Mae Calon Ddramatig Cymru yn lle gwych i chi ddod â’ch ci ac mae gennym opsiynau llety sy’n rhoi croeso cynnes i’ch cŵn. Beth am Fferm Cwtsh yng Nghwm Tawe Uchaf? Gyda golygfeydd o’r mynyddoedd a pharcio am ddim, mae’n opsiwn gwych ar eich cyfer chi a’ch ci.

Am dipyn o foethusrwydd ewch i Fythynnod Creunant yng Nghwm Dulais. Casgliad o dri bwthyn gwyliau gyda waliau cerrig traddodiadol, popty AGA a llefydd tân inglenook, mae’r rhain yn lleoliad gwych i deuluoedd neu grwpiau o ffrindiau.

Gallwch ddewis o blith amrywiaeth eang o opsiynau llety drwy ddefnyddio ein tudalen chwilio am lety. Chwiliwch yn ôl ardal a math o lety i ddod o hyd i’ch lleoliad delfrydol am wyliau