Llefydd i ymweld â nhw

Crwydrwch yn yr awyr agored yr haf yma a gwnewch y gorau o'r tirweddau naturiol gwych.

Gyda mynyddoedd a chymoedd i’w mwynhau ac awyrgylch hamddenol yn ein hardal yng nghanol de Cymru, gallwch ailgysylltu â natur a chreu atgofion fydd yn para.

Mae dewis gwych o barcdiroedd ar ein cyfer. Mae Calon Dramatig Cymru yn gartref i Barc Gwledig Margam a Pharc Gwledig Craig Gwladys, y lleoedd perffaith i ymweld â nhw ar gyfer diwrnod allan amrywiol i’r teulu. Mae’r ddau’n gyforiog o hanes ac yn cynnig digonedd o fannau agored braf i’w crwydro, mae ymweliad i’r parciau yma yn yr haf yn rhywbeth y mae’n rhaid i bob un sy’n dod yma ei roi ar eu hamserlen.

Byddem yn eich annog i ymchwilio i’n hanes cyfoethog wrth ymweld â Chastell-nedd Port Talbot. O’n dechreuadau mynachaidd drwy i’n diwydiant byw, mae llawer i’w ganfod am sut mae ein hanes wedi siapio’r dirwedd y byddwch yn ymweld â hi heddiw. Ewch am dro o amgylch adfeilion Abaty Nedd neu ewch i Abaty Margam a’r Amgueddfa Gerrig i ddarganfod creiriau hynafol.

Bydd llawer yn gwybod bod ein hardal wedi ffynnu yn ystod y chwyldro diwydiannol pan oedd y diwydiant glo yn allweddol. Mae Amgueddfa Glowyr De Cymru yn darlunio’r cyfnod hwn ac yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddysgu mwy am y gwaith peryglus ac anodd hwn.

Am ragor o ysbrydoliaeth ewch i’n tudalennau ‘Llefydd i ymweld â nhw’ a chynlluniwch eich gwyliau byr nesaf yng Nghalon Ddramatig Cymru.