Pethau i'w gwneud
Fyddai'r un daith i Galon Ddramatig Cymru yn gyflawn heb ymweld â Thraeth Aberafan.
Yn ystod y dydd mae’r traeth tywod tair milltir yn hafan i bobl ar eu gwyliau gyda’i barc dŵr, mannau chwarae gwych i blant, golff antur a chyfoeth o gaffis a bwytai i chi fodloni eich awydd am hufen iâ neu bysgod a sglodion.
Gyda’r nos gallwch wylio’r haul yn machlud dros Fae Abertawe o’r promenâd i gael profiad bythgofiadwy ar eich gwyliau.
Mae’r haf yng Nghalon Ddramatig Cymru hefyd yn amser ar gyfer chwaraeon dŵr o bob math. Rhowch gynnig ar syrffio gydag Ysgol Syrffio Cymru neu archebwch sesiwn gweithgaredd gydag Adventure Britain neu Mountain and River Activities a rhoi cynnig ar gerdded ceunentydd. Llogwch ganŵ gan Gwmni Antur De Cymru a gwnewch eich ffordd i lawr Camlas Castell-nedd neu casglwch eich teulu am ychydig o hwyl adeiladu rafftiau gydag Antur Parc Margam ym Mharc Gwledig Margam .