Gyda hanner tymor mis Mai ar y gorwel, mae teuluoedd ar draws De Cymru yn chwilio am amrywiaeth o weithgareddau i roi adloniant i’w plant yn ystod yr wythnos.
Mae ardal Castell-nedd Port Talbot, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Calon Ddramatig Cymru, yn llawn o anturiaethau sy’n aros i gael eu darganfod. O lwybrau beicio troellog i anturiaethau i fyny ar dop y coed, gwersi syrffio i ddysgu am hen hanes, mae rheswm pam bod teuluoedd wrth eu bodd gyda’r trysor cudd hwn.
Dewch i ganfod pa weithgareddau addas i’r teulu sy’n eich disgwyl dros hanner tymor mis Mai:
Gŵyl In It Together
Dechreuwch hanner tymor mis Mai yn gryf yng Ngŵyl In It Together! Mae’r ŵyl boblogaidd hon bellach ar ei phedwaredd flwyddyn ac mae’n denu pobl o bob cwr o’r DU a thu hwnt.
Mae’n digwydd ar Fferm yr Hen Barc ym Margam, ac mae’n ddeniadol iawn i deuluoedd, yn cynnig tocynnau teulu i’r ŵyl a gwersylla i’r teulu am y penwythnos. Mae ardal bwrpasol o fewn tiroedd yr ŵyl, ardal ‘Tic Tac Toe’, yn darparu dros 100 o weithgareddau i oedolion a phlant, yn cynnwys Castell Neidio Mwya’r Byd a sinema awyr agored.
Cewch ganu a dawnsio dan yr haul a gwneud atgofion i bara byth yng Ngŵyl In It Together yr hanner tymor hwn. Mae tocynnau ar gael fan hyn.
Eisteddfod yr Urdd, Parc Margam
Cafodd yr Urdd ei sefydlu yn 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc yng Nghymru i ddysgu a chymdeithasu yn y Gymraeg. Erbyn hyn mae hyd at 100,000 o bobl yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn ac mae’r ŵyl eleni’n cael ei chynnal ym Mharc Gwledig Margam.
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn digwydd ym Mharc Gwledig Margam rhwng Dydd Llun 26ain Mai a Dydd Sadwrn 31ain Mai, ac mae’n ddiwrnod allan gwych i deuluoedd gael ymgolli yn y diwylliant Cymraeg a dathlu doniau ifanc.
Mae tocynnau ar gael wrth y fynedfa, ac mae modd eu prynu yma hefyd.
Anturiaethau ar Ddŵr a Thir
Hefyd ym Mharc Gwledig Margam mae Antur Parc Margam darparydd gweithgareddau awyr agored sy’n cael ei redeg yn annibynnol ac sy’n cynnal sesiynau megis canŵio, fforio, byw yn y gwyllt, saethyddiaeth, llogi gwibgerti a rhagor.
Gall eu tîm o hyfforddwyr a thywyswyr profiadol gynnig profiad unigryw a bythgofiadwy i deuluoedd dros hanner tymor. Am ddiwrnod llawn antur, adrenalin ac ychydig bach o ddysgu, mae Antur Parc Margam yn cynnig diwrnod allan gwych.
Dysgu am hanes Richard Burton
Mae 2025 yn flwyddyn dathlu canmlwyddiant geni Richard Burton, yn dathlu bywyd ac etifeddiaeth yr actor o Oes Aur Hollywood a aeth â Chymru allan i’r byd.
Cerddwch yn ôl ei draed ar Lwybrau Richard Burton ym Mhontrhydyfen a Thaibach, neu ewch i’r arddangosfa ‘Dod yn Richard Burton’ yng Nghanolfan Siopa Afan sy’n rhagarddangos rhwng 26ain a 31ain Mai. Dysgwch am sut y bu i’r Richie Jenkins ifanc ganfod ei gariad am actio a sut y cafodd ei dalent byd-enwog i siapio gan y tirweddau a’r cymunedau yma yng Nghalon Ddramatig Cymru.
Ewch i’r Tonnau
I deuluoedd sydd angen rhywfaint o fôr, tywod ac ewyn yn ystod eu gwyliau hanner tymor, fyddai dim taith i Galon Ddramatig Cymru yn gyflawn heb ymweld â Thraeth Aberafan.
Mae’r tair milltir o draeth tywod yn berffaith ar gyfer pobl ar eu gwyliau, ynghyd â’r siopau pysgod a sglodion blasus, y parlyrau hufen iâ a pharc sblasio dŵr a chae chwarae newydd sbon.
Am ddiwrnod ychydig mwy egnïol ar y traeth, mae Surf School Wales yn cynnig gwersi syrffio i’r teulu cyfan, gan addo dwy awr o hwyl sy’n sicr o flino’r plant yn llwyr!
Hwyl ar y Dŵr
Dewch i’r mewndir a chrwydro ar ddyfrffyrdd hynafol Castell-nedd Port Talbot gyda’r South Wales Adventure Company.
Wedi’u lleoli ar Gamlas Castell-nedd yn Resolfen, maen nhw’n darparu amrywiaeth eang o weithgareddau yn cynnwys llogi canŵod, caiacau a phadlfyrddau. Mae’r gamlas yn wych ar gyfer teuluoedd a rhai di-brofiad gan fod y dŵr yn cynnwys sylfaen dawel ac ymlaciol ar gyfer hwyl ar y dŵr.
Maen nhw hefyd yn cynnig caiacio nos, hwyl i’r synhwyrau gyda’r caiacau wedi’u haddurno â goleuadau lliwgar wrth i’r anturiaethwyr fwynhau ar y gamlas yn y tywyllwch. Mae hwn yn weithgaredd ffantastig a chwbl wefreiddiol ac mae wedi bod yn boblogaidd dros ben gyda theuluoedd ers iddo gael ei gyflwyno.
Pa bynnag antur y byddwch yn ei dewis, dewch i adnabod Calon Ddramatig Cymru dros hanner tymor. Chwiliwch am rywle i aros fan hyn
: https://dramaticheart.wales/discover-our-area/accommodation/