Anturiaethau Epig Hydref

Mae digon o anturiaethau i'w cael yn ystod misoedd yr hydref yng Nghalon Ddramatig Cymru.

Mae’r hydref yn amser poblogaidd o’r flwyddyn ar gyfer beicio mynydd ac mae Parc Coedwig Afan enwog yn cynnig llwybrau cyffrous i’r rhai sydd â diddordeb a dechreuwyr profiadol fel ei gilydd. Gydag wyth o lwybrau i ddewis o’u plith yn amrywio o lwybrau gwyrdd i ddechreuwyr i’r llwybrau du mwy heriol, gallech chi dreulio penwythnos cyfan yma heb lwyddo i gwblhau pob llwybr.

Mae’r cyfleusterau yn Afan yn darparu beicwyr mynydd gyda phopeth sydd ei angen o logi beiciau a hyfforddiant i gaffis, cawodydd a mannau golchi beiciau.

Mae Parc Gwledig Margam hefyd yn gartref i bedwar llwybr beicio mynydd. Mae’r llwybr teulu yn berffaith am hwyl dros hanner tymor gyda’i lwybrau tarmac eang; gallwch hyd yn oed logi go-certi gan Antur Parc Margam i’w defnyddio ar y llwybr hwn. Gall beicwyr mwy profiadol fwynhau’r golygfeydd trawiadol dros Fae Abertawe cyn mynd i lawr y llwybr du.