Ble i aros

Mae digon o lefydd i aros ym misoedd yr Hydref yn y Galon Ddramatig Cymru.

Os ydych chi’n cynllunio antur beicio mynydd yr hydref hwn, gwnewch Bryn Bettws yn gartref i chi ar gyfer eich arhosiad. Gyda golygfeydd gwych dros Gwm Afan, mae Porthdy Afan yn darparu ar gyfer beicwyr mynydd gyda lle i storio beiciau am ddim, cyfleusterau golchi beiciau a bar a bwyty croesawgar i ymlacio ar ôl diwrnod mawr ar y llwybrau. Mae teras awyr agored hyd yn oed i chi fwynhau’r haul cynnes cyn y gaeaf.

Mae Gwesty’r Bluebell yng Nghastell-nedd yn ganolfan wych arall ar gyfer arhosiad yng Nghalon Ddramatig Cymru. Mae’r gwesty boutique yma yng nghanol tref Castell-nedd yn cynnig llety cysurus a bwyd tapas yn ei far a’i fwyty.

Mae Bythynnod Gwyliau Cwm Tawe yn ddewis gwych i deuluoedd a grwpiau o ffrindiau sydd am grwydro Pontardawe a’r ardal gyfagos ar droed. Gyda llawer o lwybrau cerdded yn yr ardal a pholisi sy’n croesawu cŵn, byddwch yn cael croeso cynnes yma.

Gerllaw mae Maenordy Plas Cilybebyll . Dyma ddewis da ar gyfer grwpiau mawr, gyda lle i hyd at 18 o bobl mewn 9 ystafell wely. Mae pwll nofio a chwrt tennis hyd yn oed yn y tŷ yma sydd ar arddull chateau Ffrengig.

Gallwch ddewis o blith amrywiaeth eang o opsiynau llety drwy ddefnyddio ein tudalen chwilio am lety. Chwiliwch yn ôl ardal a math o lety i ddod o hyd i’ch lleoliad delfrydol am wyliau