Mannau i Ymweld â Nhw

Yr hydref yw'r amser perffaith i ymweld â sgydiau Castell-nedd Port Talbot. Un o nodweddion naturiol mwyaf deniadol y rhan hon o Gymru yw Gwlad y Sgydiau yng Nghwm Nedd.

Sgwd Rhyd-yr-Hesg yw un o’r troeon byrraf at sgwd yn yr ardal. Rhowch eich esgidiau cadarn neu’ch esgidiau glaw ar eich traeth i fwynhau’r daith wastad sy’n gallu bod yn fwdlyd weithiau i Sgwd Rhyd yr Hesg ym mhentref Melincwrt yng Nghwm Nedd.

Mae Sgwd Aberdulais yn llawn hanes: dyma oedd calon yr hen weithfeydd tunplad. Mae’r safle cwbl hygyrch hwn i’r sgwd yn cael ei weinyddu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae’n hafan i fywyd gwyllt ac yn olygfa ysblennydd yn enwedig yn dilyn diwrnod glawog yn yr hydref.

Mae Castell-nedd Port Talbot yn enwog am ei draeth tywod tair milltir a’i llu o fannau lle gallwch edrych allan ar yr olygfa dros y môr. Mae hefyd ar Lwybr Arfordir Cymru , llwybr di-dor 870 milltir o hyd sy’n mynd ar hyd arfordir Cymru. Argymhellwn daith gerdded hydrefol ar hyd Llwybr yr Arfordir i weld Calon Ddramatig Cymru o gyfeiriad newydd.

Mae ein pum cwm yn cynnig cyfoeth o lwybrau cerdded ac anturiaethau y gallwch eu profi drwy gydol yr hydref. O anturiaethau yn Nyffryn Aman a’r anialwch garw sydd i’w weld yng Nghwm Aman Uchaf , i sîn gelfyddydol ffyniannus Cwm Tawe , tirweddau naturiol darluniadol perffaith Cwm Dulais , a golygfeydd godidog Cwm Nedd o raeadrau a choetir . Pan fyddwch yn ymweld â Chalon Ddramatig Cymru gofynnwn i chi wneud addewid

i barchu’r dirwedd a’r cymunedau y byddwch yn ymweld â nhw. Gallwch wneud Addewid Croeso Cymru yma.