Hysbysiad Preifatrwydd

 

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Calon Ddramatig Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth a’r hawliau sydd gennych mewn perthynas â Rheoliadau Cyffredinol Diogelu Data 2016.


Pwy ydym ni?

Mae gwefan a brand Calon Ddramatig Cymru ym mherchnogaeth ac o dan reolaeth Gwasanaeth Twristiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Y Gwasanaeth Twristiaeth yw darparwr swyddogol gwybodaeth am dwristiaeth i sir Castell-nedd Port Talbot.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) yn gweithredu fel Rheolydd Data ar gyfer y data personol mae Gwasanaeth Twristiaeth CBSCNPT (sy’n gyfrifol am hyrwyddo Calon Ddramatig Cymru) yn ei gadw amdanoch chi.


Yr wybodaeth bersonol rydym ni’n ei chadw amdanoch.

Os byddwch chi’n ymuno â’n rhestr bostio trwy lenwi ffurflen ymuno ar www.dramaticheart.wales byddwn ni’n gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

  • Cyfeiriad e-bost (gofynnol)
  • Côd post cartref (ddim yn ofynnol)
  • Eich diddordebau, e.e.: cerdded, beicio, beicio mynydd, treftadaeth ac ati (ddim yn ofynnol)
  • Natur eich grŵp, h.y. maint y grŵp, teulu, ffrindiau ac ati (ddim yn ofynnol)


Sut byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth

Os byddwch chi’n ymuno â’n rhestr bostio trwy lenwi ffurflen ymuno ar www.dramaticheart.wales byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol i wneud y canlynol:

  • Anfon llythyr newyddion Calon Ddramatig Cymru yn achlysurol i’r cyfeiriad e-bost a roesoch i ni.
  • Anfon gwybodaeth atoch am newyddion, digwyddiadau neu eitemau hyrwyddo rydym ni’n teimlo fyddai o ddiddordeb i chi ar sail y diddordebau, y math o grŵp neu’r côd post a roesoch wrth ymuno.
  • Os byddwch chi’n cydsynio i ni gysylltu â chi at ddibenion ymchwil, gallwn ni anfon holiaduron dewisol atoch yn gofyn am eich barn ar ôl ymweld â’n gwefan a chyrchfannau.

Gallwch adael y rhestr bostio ar unrhyw adeg trwy glicio ar y ddolen berthnasol mewn unrhyw e-bost a gewch oddi wrthym, neu gallwch anfon e-bost atom ni yn tourism@npt.gov.uk neu gysylltu â’r Gwasanaeth Twristiaeth dros y ffôn ar 01639 686417.

Byddwn ni’n defnyddio eich cyfeiriad e-bost personol i anfon gwybodaeth atoch chi, fel y nodir uchod.

Os rhowch eich côd post i ni, byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth honno i ddadansoddi o ble mae ein hymwelwyr a’n darpar-ymwelwyr yn dod. Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth honno hefyd i gyfeirio deunyddiau marchnata ac e-byst i ardal ddaearyddol benodol.

Os byddwch chi’n defnyddio’r blychau llenwi i nodi’r meysydd sydd o ddiddordeb i chi (h.y. cerdded, beicio, beicio mynydd, treftadaeth ac ati), byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth honno i anfon e-byst sy’n berthnasol i’r diddordeb hyn atoch.

Rydym ni’n defnyddio system o’r enw Campaign Monitor i ddosbarthu ein llythyr newyddion ac anfon deunydd hyrwyddo a allai fod o ddiddordeb i chi. Bydd y data personol yma’n cael ei gasglu dim ond lle rydych chi’n cydsynio i dderbyn gwybodaeth am ymweld â’r ardal.


Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth ac am ba hyd byddwn ni’n ei chadw

Y sail gyfreithiol sydd gennym ar gyfer prosesu eich data personol yw eich cydsyniad.

Byddwch wedi mynegi’r cydsyniad hwn trwy ddethol blychau ticio perthnasol ar www.dramaticheart.wales wrth ymuno â’n cronfa ddata.

Bydd y data rydych wedi’i ddarparu wrth ymuno â’n cronfa ddata yn cael ei storio yng nghronfa ddata ddiogel ein system bostio am 2 flynedd, ac wedi hynny byddwn ni’n cysylltu â chi ynghylch diweddaru eich data yn y gronfa neu ei ddileu. Fel arall, gallwch ddewis tynnu’n ôl ar unrhyw adeg trwy ddefnyddio’r manylion uchod i gysylltu â ni.


Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth

Dylech wybod bod unigolion yn cael yr hawliau canlynol yng nghyswllt eu data personol o dan GDPR:

  1. Hawl mynediad at eu data personol a gedwir gan reolydd data.
  2. Hawl i gael data anghywir wedi’i gywiro gan reolydd data.
  3. Hawl i gael dileu eu data (o dan rai amgylchiadau cyfyngedig).
  4. Hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolydd data (o dan rai amgylchiadau cyfyngedig).
  5. Hawl i wrthwynebu defnydd o’u data ar gyfer marchnata uniongyrchol.
  6. Hawl i ddata cludadwy (h.y. trosglwyddo data’n electronig i reolydd data arall).

Mae gennych hawl i gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth am unrhyw achos o dorri eich hawliau diogelu data. Mae manylion ynghylch sut gallwch chi wneud hynny ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth www.ico.org.uk

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar gael o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth: www.ico.org.uk.


Sut mae cysylltu â ni

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am sut mae CBSCNPT yn defnyddio eich gwybodaeth, neu os hoffech gysylltu â ni i gwyno am y defnydd o’ch gwybodaeth, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data CBSCNPT yn y cyfeiriad canlynol:

Y Swyddog Diogelu Data
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Y Ganolfan Ddinesig
Port Talbot
SA13 1PJ

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Chwilio