Mae Antur yr Haf yn eich Disgwyl yng Nghalon Ddramatig Cymru

Pan fyddwch chi’n treulio eich haf yng Nghalon Ddramatig Cymru, fyddwch chi ddim yn brin o antur a chyffro.

P’un a ydych chi’n chwilio am wyliau byr i greu atgofion gyda’ch teulu, gweithgareddau sy’n croesawu cŵn, gwyliau gang genethod llawn hwyl neu wyliau grŵp llawn adrenalin, mae anturiaethau haf yn ein cornel arbennig o Dde Cymru yn eich disgwyl a fedrwn ni ddim aros i’ch croesawu chi!

O hedfan drwy’r awyr ar wifren wib i ddringo mynyddoedd, cerdded ceunentydd a go-gertio, mae hwyl ar gael i’r teulu cyfan.

Adventure Britain, Blaendulais

Os ydych chi’n chwilio am weithgaredd adrenalin uchel yn yr awyr agored, sy’n addas i bob oedran a gallu, byddwch chi’n bendant eisiau trefnu taith gydag Adventure Britain.

Mae’n gwmni annibynnol gyda thîm o arbenigwyr lleol ac mae’r gweithgareddau’n cynnig ogofa, dringo creigiau, pledu paent, canŵio a llawer mwy.

Maen nhw hefyd wrth eu bodd yn trefnu penwythnosau stag a phlu, felly os ydych chi’n cynllunio parti cyn priodas yng Nghalon Ddramatig Cymru yr haf yma, cysylltwch â nhw i weld beth sydd ganddyn nhw i’w gynnig.

Afan Adventure Dog, Cymer, Cwm Afan

Mae cŵn yn rhan o’r teulu felly mae’n ddigon teg eu bod yn cael eu cynnwys yn eich gwyliau hefyd.

O badlfyrddio i ‘Barkour’ mae Afan Adventure Dog yn croesawu pob ci am ddiwrnod o hwyl a sbri.

Gallwch ddewis o blith eu gweithgareddau i greu eich profiad unigryw y bydd eich ci annwyl yn ei fwynhau’n fawr.

Wales Outdoors, Glyn-nedd

Os mai gwyliau cerdded yw’ch dewis, yna beth am fynd at Wales Outdoors pan fyddwch chi’n ymweld â Chalon Ddramatig Cymru.

Mae ganyddyn nhw dros 30 mlynedd o brofiad fel gweithwyr proffesiynol ym maes twristiaeth, a gallant fynd â grwpiau bach neu fawr ar deithiau cerdded tywys manwl neu deithiau i weld y golygfeydd yn yr ardal.

Mae hwn yn brofiad gwych i’r rhai sy’n caru hanes ac i gerddwyr fel ei gilydd, felly os yw hynny’n swnio’n ddeniadol i chi, rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn ychwanegu taith gyda Wales Outdoors at eich amserlen.

Margam Adventure, Parc Gwledig Margam

Gydag 850 erw o barcdir hardd, gallwch fwynhau llu o weithgareddau cyffrous gyda Margam Park Adventure.

Gallwch chi a’ch teulu fwynhau’n caiacio, padlfyrddio, beicio mynydd, saethyddiaeth, coedwriaeth, a llawer mwy – y cyfan dan arweiniad hyfforddwyr cymwysedig.

Os yw antur, adrenalin a sgiliau newydd ar frig eich rhestr blaenoriaethau ar gyfer gwyliau, yna does dim angen edrych ymhellach na Margam Adventure.

 

Waeth beth ydych chi’n chwilio amdano mewn gwyliau, mae gan Galon Ddramatig Cymru y cyfan, a fedrwn ni ddim aros i rannu ein cornel hardd o’r byd gyda chi.