Mae Gŵyl In It Together, gŵyl gerddoriaeth fwyaf a gorau’r rhanbarth, yn ôl eto eleni rhwng 26 a 28 Mai, ac mae pawb yn hynod gyffrous ei fod yn dychwelyd.
Mae rhywbeth i bawb ei fwynhau yn yr ŵyl o’r holl berfformwyr, i weithgareddau addas i deuluoedd, ffair a llawer mwy. Bydd yn cael ei gynnal ar Fferm yr Hen Barc ym Margam gan adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl gyntaf y llynedd; bydd y rhai sydd â thocynnau dydd a thocynnau penwythnos yn cael amser gwych. Felly beth allwch chi ei ddisgwyl?
Y dewis cerddorol
Mae amrywiaeth trawiadol o berfformwyr drwy gydol y penwythnos o fandiau indi a DJs i rapwyr a sêr pop. Gydag enwau mawr yn cynnwys The Kooks, James Bay, Anne-Marie, UB-40 a Groove Armada a llawer mwy, mae’r penwythnos yn orlawn o dalent cerddorol.
Mae llwyfan newydd eleni o’r enw Steelworks fydd yn rhoi llwyfan i fandiau lleol a cherddoriaeth ddawns electronig yn erbyn cefnlen ddramatig gwaith dur Port Talbot. Ewch i wrando a chael profiad o glywed artistiaid lleol yn yr ardal hon!
Beth arall?
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud rhwng gwylio eich off fandiau yna rydych chi yn y lle iawn. Nid gŵyl gerddorol yn unig yw In It Together, mae’n brofiad trochi gyda phob math o adloniant. Bydd ffair ar gael yno gyda cheir taro yn ogystal â’r Circus of Lost Souls fydd yn perfformio amrywiaeth ffantastig o driciau a gorchestion.
Os ydych chi’n ymweld gyda’ch teulu yna ewch draw i’r ardal Tic Tac Toe lle gallwch gymryd rhan mewn dros 50 o weithgareddau! Bydd ymwelwyr â’r ŵyl hefyd yn gallu ymlacio yn yr ardan Retreat a chymryd rhan mewn sesiynau ioga, ymwybyddiaeth ofalgar a reiki.
Dydd a Nos
Gallwch gael profiad o’r ŵyl In It Together am ddiwrnod neu am y penwythnos cyfan drwy wersylla ar y safle. Gyda llu o opsiynau yn cynnwys tocynnau teulu, tocynnau myfyrwyr a phrofiad gwersylla VIP gallwch fwynhau In It Together am y tridiau cyfan.
Os hoffech chi ymweld â rhai o’r atyniadau a’r gweithgareddau gwych eraill sydd ar gwel ym Margam a thu hwnt tra’ch bod yno ar gyfer In It Together yna ewch i gael golwg ar ein tudalennau Cynllunio Eich Ymweliad – a chofiwch ein tagio ar y cyfryngau cymdeithasol.





