Mae Castell-nedd Port Talbot yn llawn o lefydd gwahanol anhygoel i ymweld â nhw yn ystod y gwanwyn gyda’u blodau lliwgar a’r haul (gobeithio) yn dechrau tywynnu. Ydych chi’n gobeithio am ddiwrnod yn mwynhau natur gyda theulu a ffrindiau, neu am ychydig o amser tawel i’ch hun? Galwch draw yn ystod y gwanwyn yma a mwynhewch Galon Ddramatig Cymru.
Parc Gwledig Margam
Dyma barc sy’n cynnig popeth. Mae’r 850 erw yn darparu’r paradwys perffaith ar gyfer anturiaethau awyr agored, gyda digonedd o lwybrau cerdded, plasty Tuduraidd gothig i garwyr hanes, Orendy a gerddi ffurfiol sy’n dod yn fyw yn y gwanwyn, ardaloedd chwarae awyr agored i’r plant a llwybrau beicio mynydd, anturiaethau Go Ape ar frig y coed, a llawer mwy yn aros i gael eu darganfod.
Mae’r holl antur yma’n eich disgwyl ychydig funudau mewn car o dref ddiwydiannol Port Talbot, gyda digon o le i barcio, yn ogystal ag opsiynau am fwyd a diod blasus. Os ydych chi’n chwilio am rywle i fynd â’r teulu cyfan am ddiwrnod llawn hwyl y gwanwyn hwn (yn cynnwys y ci, gan fod Parc Margam yn croesawu cŵn, does dim angen edrych ymhellach na Pharc Gwledig Margam.
Parc Gwledig Gnoll
Mae canolfan ymwelwyr a chaffi newydd sbon yma i’ch croesawu cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd Parc Gwledig Gnoll. Mae’r llwybrau llyfn ac eang yn gwneud y parc yma’n ddelfrydol i bobl fwynhau mynd am dro hawdd a hygyrch drwy fyd natur, gyda digonedd o fannau chwarae i’r plant i ganiatáu iddynt fwynhau eu hymdeimlad o antur.
Cerddwch ar hyd y llwybrau gyda’r coed bob ochr, heibio’r rhaeadrau byrlymus neu gallwch dreulio amser yn gwylio’r cywion alarch yn nofio o gwmpas y llyn. Y gwanwyn yw’r tymor pan ddaw popeth yn fyw yn y Gnoll – gyda’r blodau lliwgar, y coed ac olion Ystâd hanesyddol y Gnoll yn darparu cefnlen berffaith am ddiwrnod llawn anturiaethau. P’un a ydych chi am fynd am dro bach hawdd, am gael diwrnod allan gyda’r teulu, neu am gael lle tawel i adfywio, Parc Gwledig Gnoll yw’r lle delfrydol i chi ymweld ag ef y gwanwyn hwn – ac mae croeso i gŵn hefyd!
Parc Coedwig Afan
Mae Parc Coedwig Afan, wedi’i leoli yng nghanol harddwch Cwm Afan, yn gyrchfan anturiaethau awyr agored y mae’n rhaid i bawb sy’n caru beicio mynydd ymweld ag ef. Wedi’i amgylchynu â bryniau tonnog a choetiroedd trwchus, mae’r parc yn cynnig dihangfa adfywiol i ymwelwyr sydd am ddod i adnabod harddwch naturiol De Cymru. Mae’n adnabyddus ar draws y DU am ei lwybrau beicio mynydd o safon byd, sy’n denu beicwyr o bob gallu.
Gall cerddwyr a rhedwyr hefyd fwynhau llwybrau tawel sy’n ymdroelli drwy’r goedwig gan gynnig awyr iach a golygfeydd hardd o’r cwm, yn enwedig yn nhymor y gwanwyn. Y tu hwnt i’r llwybrau, mae’r ganolfan ymwelwyr yn cynnig lle i ymlacio a chael lluniaeth wrth i chi gynllunio eich llwybr nesaf. Os ydych chi’n cynllunio cael diwrnod llawn adrenalin y gwanwyn hwn, mae Parc Coedwig Afan yn cynnig profiad bythgofiadwy.
Parc Gwledig Craig Gwladys
Wrth i’r gwanwyn gyrraedd mae Parc Gwledig Craig Gwladys yn cael ei drawsnewid. Mae’r dail gwyrdd a’r blodau lliwgar yn dechrau llenwi’r llwybrau troellog gan ymuno â seiniau tyner y nentydd gerllaw. Dyma’r lle perffaith i arafu ac ailgysylltu â natur.
Mae’r parc yn cynnig nifer o weithgareddau all eich helpu i wneud y gorau o’ch ymweliad, yn cynnwys llwybr treftadaeth y gloddfa ddrifft, teithiau tywys i’r teulu, gweithdai crefft treftadaeth a sesiynau llesiant. Gyda’i gymysgedd o olygfeydd hardd, mannau tawel ger yr afon a blodau tymhorol lliwgar, mae’n gyrchfan perffaith ar gyfer ymweliad adfywiol i Cwm Nedd y gwanwyn hwn.