Wrth i’r dyddiau fyrhau mae Calon Ddramatig Cymru yn newid i fod yn wlad aeafol hudolus yn llawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau Nadoligaidd.
O bantomeimau llachar i’r llwybrau goleuadau gwych, mae Calon Ddramatig Cymru yn cynnig dihangfa swynol i’r rhai sy’n chwilio am hwyl yr ŵyl.
Profiadau Pantomeim
Does dim byd tebyg i bantomeim adeg y Nadolig, yn enwedig yn theatrau a lleoliadau hardd Calon Ddramatig Cymru. Mae Theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot yn cynnig hud a lledrith gyda’u pantomeim “Pinocchio” fydd ar gael i gynulleidfa o oedolion ar Ragfyr 7fed ac 8fed ac i deuluoedd ar Ragfyr 9fed. Mae Canolfan y Celfyddydau Pontardawe yn cyflwyno fersiwn unigryw o “Jack and the Beanstalk” gyda’u pantomeim i oedolion yn cael ei berfformio rhwng 8fed a’r 19eg Rhagfyr, a fersiwn i’r teulu rhwng Rhagfyr 9fed a’r 18fed.
I’r rhai fydd yn rhy brysur yn paratoi at y Nadolig i fynychu Panto cyn y diwrnod mawr, mae’r dathlu’n parhau yn y flwyddyn newydd yn Neuadd Gwyn Castell-nedd. Bydd yr enwog “Jack and the Beanstalk” yn cael ei berfformio rhwng 5ed a 14eg Ionawr, 2024.
Adrenalin yr Ŵyl
Wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, mae’n amser delfrydol i gyflawni ambell i fwriad munud olaf. Gwisgwch eich esgidiau rhedeg a’ch hetiau Siôn Corn yn barod ar gyfer Ras Hwyl y Nadolig Pontardawe ar 17eg Rhagfyr. Dyma ddigwyddiad perffaith i ddod i adnabod tirwedd Cwm Tawe a dechrau teimlo ysbryd y Nadolig.
I gael gwared ar syrthni’r Nadolig, beth am ymweld ag un o draethau hiraf Cymru, traeth Aberafan? Gyda thair milltir o dywod aur i’w gerdded, mae’n gyrchfan perffaith yn y gaeaf: lapiwch yn gynnes a mwynhewch ddiod twym yn Café Remos neu Bar Traeth Memo unwaith y byddwch wedi clirio eich pen ar y traeth.
Digwyddiadau Hudolus i deuluoedd
Ymgollwch yn hud tymor y Nadolig yn y digwyddiadau Bwydo Ceirw Santa ym Mharc Gwledig Margam. Bydd teras y castell yn dod yn fyw gyda hud y ceirw’n bwydo ac ymweliadau gan Siôn Corn ei hun. Gall plant hefyd fod yn helpwyr swyddogol i Siôn Corn yn y Gweithdai Gwna fi’n Gorrach.
Mae Pharc Gwledig Margam hefyd yn goleuo Calon Ddramatig Cymru gyda llwybr ysblennydd o oleuadau, gyda Luminate yn dod yn ôl eto’r Nadolig hwn! Gyda goleuo hudolus, hwyl rhyngweithiol i bob oedran, a danteithion blasus ar hyd y llwybr, mae Luminate yn daith hyfryd drwy diroedd hanesyddol Parc Margam. Mae ein cerflun hardd ‘Calon Ddur’ yn ffurfio rhan o’r llwybr goleuadau eleni felly cofiwch oedi i weld yr ardal o safbwynt newydd.
Mae’r Nadolig yn fwy na dim ond gwyliau yng Nghalon Ddramatig Cymru, mae’n gyfle i greu atgofion bythgofiadwy gyda’n gilydd. Gwnewch Nadolig 2023 yn un i’w gofio yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Gallwch ganfod rhagor o weithgareddau a llefydd i ymweld â nhw yma, yng Nghalon Ddramatig Cymru.