Rhwng 15ed a 19eg Hydref, mae Gŵyl Gelfyddydau Castell-nedd yn dod yn ôl i ddathlu’r celfyddydau a diwylliant mewn lleoliadau ar draws canol y dref.
Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y Fonesig Siân Phillips fydd yn sgwrsio am ei bywyd a’i gyrfa, a chyn brif ganwr y Super Furry Animals, Gruff Rhys, yn chwarae set unigol arbennig.
Yn dilyn y thema ‘Eiconau Dramatig’ – cyfeiriad at Galon Ddramatig Cymru, yr enw sy’n cael ei ddefnyddio’n aml am Gastell-nedd Port Talbot – mae’r ŵyl yn annog pobl leol a thwristiaid i ganfod y llinynnau creadigol sy’n clymu’r rhanbarth hwn at ei gilydd.
Gyda cherddoriaeth fyw yn y Duke, yn Neuadd Gwyn ac yn Eglwys Dewi Sant, perfformiadau a gweithdai yn Theatr Fach Castell-nedd, sgyrsiau gan awduron ac artistiaid yn Neuadd y Dref, mae’r Ŵyl yn cynnig llu o gweithgareddau a phrofiadau addas i’r teulu i gyd.
Ar ben hyn, mae’r Ŵyl yn gweld Amgueddfa’n dod yn ôl i Gastell-nedd gydag Amgueddfa pop-yp yn dod i Ganolfan Gymunedol Stryd y Berllan. Bydd yr arddangosfa treftadaeth yn gwahodd ymwelwyr i gael mewnwelediad ar hanes balch tref Castell-nedd. Bydd yr amgueddfa hefyd yn hwyluso gweithdai i blant mewn ysgolion cynradd lleol, gan sicrhau gwell mynediad i’r celfyddydau a diwylliant i genedlaethau iau.
Gan mai 2025 yw blwyddyn Canmlwyddiant Richard Burton, mae Gŵyl Gelfyddydau Castell-nedd hefyd yn anelu i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o berfformwyr a bydd yn dathlu etifeddiaeth o leisiau creadigol o ranbarth Castell-nedd Port Talbot, yn enwedig yn yr arddangosaf Perthyn i Bontrhydyfen yn Stiwdio 40, dan arweiniad Grŵp Bont Burton, a’r Dosbarth Meistr Portread o Richard Burton gan Burt Evans.
Wedi’i drefnu gan dîm o wirfoddolwyr brwdfrydig, mae Gŵyl Gelf Castell-nedd yn hyrwyddo ymgysylltiad diwylliannol yng Nghastell-nedd. Mae’n cael ei redeg gan y gymuned, ar gyfer y gymuned, gan sicrhau bod mynediad i’r celfyddydau a diwylliant ar gael i bawb.
Meddai Roger Williams, cyfarwyddwr Gŵyl eleni: “Mae Gŵyl Gelfyddydau Castell-nedd yn ei drydedd flwyddyn erbyn hyn, ac rydym yn falch i adeiladu ar lwyddiant ein dau ddigwyddiad blaenorol ac i annog mwy o bobl i brofi amrywiaeth eang o ddiwylliant.
“Mae’r ŵyl yn gyfle i’r gymuned wrando ar awduron nodedig megis Joe Dunthorne ac enillydd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn, Gwenno Gwilym, i ymweld ag amrywiaeth o arddangosfeydd celf a ffotograffiaeth, i fwynhau perfformiadau cerddorol a theatrig megis y ddrama newydd clodfawr “Martin Decker: DAD” ac i ddysgu sgiliau newydd mewn gweithdai peintio, canu ac actio.
“Ein gobaith yw y bydd yr ŵyl yn ysbrydoli, yn addysgu ac yn rhoi adloniant. Mae pobl yn cwyno’n aml nad oes digon o ddigwyddiadau celfyddydol yng Nghastell-nedd ond bydd ein gŵyl pum niwrnod yn eu profi’n anghywir. Mae angerdd creadigol yn yr ardal hon sy’n rhedeg yn naturiol drwy’r gymuned. Mae’n gŵyl yn ymwneud â rhoi ffocws i’r celfyddydau a chyflwyno pobl i waith na fydden nhw wedi dod ar ei draws fel arall. Mae’n ddathliad o greadigrwydd ond mae hefyd yn ddathliad o bopeth sy’n dda am y dref ac am y bobl sy’n byw yma.”
Dysgwch ragor: https://www.neathartsfestival.cymru/