Wedi i’r pwll glo olaf gau yn 1970, gadawodd llawer o bobl y cwm i gael hyd i waith rywle arall, ac roedd ofn na fyddai’r ardal yn gallu ymadfer. Fe’i dynodwyd fel parc coedwig yn 1972 oherwydd ei photensial gwych i gerddwyr. Ond grŵp o feicwyr mynydd a’u hawydd i greu llwybr yma newidiodd bopeth i’r cwm.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Parc Coedwig Afan yn awr yn cynnig rhai o’r reidiau mwyaf heriol, ond llawn boddhad, yn y Deyrnas Unedig, gyda mwy na 130km o lwybrau.
Mae’r hen lein reilffordd a fu’n cludo teithwyr a glo ar hyd y cwm bellach yn llwybr beicio hamddenol. Hefyd mae nifer o lwybrau cerdded wedi’u cyfeirbwyntio, rhai ohonynt yn cynnig golygfeydd ysblennydd o’r cwm ac eraill yn mynd heibio i hen lofeydd, tramffyrdd a rheilffyrdd nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach.
Mae gan Barc Coedwig Afan ddwy ganolfan ymwelwyr; Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan yn Nhrecynon a’r Ganolfan Beicio Mynydd yng Nglyncorrwg. Mae gan y ddwy gyfleusterau ardderchog i deuluoedd, cerddwyr a beicwyr, yn cynnwys caffis, lle parcio, siopau beiciau a chyfleusterau cyhoeddus.