Y Llwybr Plentyndod

Bydd y ‘Llwybr Plentyndod’ yn eich arwain o gwmpas Tai-bach lle roedd Richard yn byw trwy gydol ei blentyndod a’i arddegau. Wrth fynd heibio i’r tai lle roedd yn byw a’r siopau, y parc a’r llyfrgell lle roedd yn arfer mynd iddynt, byddwch yn cael ymdeimlad o’i wreiddiau lleol yr oedd e’n ymfalchïo’n fawr ynddynt. Mae cerdd anorffenedig gan Richard i’w gweld mewn gwely blodau dynodedig ym Mharc Coffa Talbot.

Ffeithiau am y Llwybr

Lefel: Canolig
Pellter: 1.5 milltir / 2.5km
Dechrau: Parc Coffa Talbot
Caniatewch: 40 munud i gwblhau’r daith gyfan

Sylwer nad oes unrhyw feysydd parcio cyhoeddus ger Parc Coffa Talbot. Mae lleoedd i barcio ar y strydoedd cyfagos, ond peidiwch â rhwystro dreifiau neu fynedfeydd lonydd.

Mannau o Ddiddordeb

  • Gwely Blodau Coffa Richard Burton.
  • Llyfrgell Tai-bach.
  • Archfarchnad Filco, Cymdeithas Gyfanwerthu Gydweithredol Tai-bach gynt.
  • Capel y Bedyddwyr Smyrna, Capel Cynulleidfaol Cymreig Noddfa gynt.
  • Clwb Rygbi Tai-bach.
  • Capel Cynulleidfaol Cymreig Gibeon.
  • Ysgol Gynradd Eastern.
  • Stryd Caradog.
  • Stryd Connaught.
  • Ysgol Gyfun Dyffryn Isaf (Ysgol Uwchradd Port Talbot gynt).

 

Taflen llwybrau

Gellir lawrlwytho taflen newydd sy’n cynnwys mapiau a chyfarwyddiadau ar gyfer dilyn y ddau lwybr Richard Burton.

 

Sut i Ymuno â’r Llwybr

Cyfeiriadau i Barc Coffa Talbot

Gadewch yr M4 (C40); ar y gylchfan, dilynwch yr arwyddion i Bort Talbot. Cymerwch y troad cyntaf ar y chwith. Nawr rydych ar Lôn y Parc (i’r gogledd o Barc Coffa Talbot) lle gallwch barcio ar y stryd. Oddi yno, gallwch gymryd y troad cyntaf ar y dde i Heol Theodore. Dilynwch y ffordd i’r diwedd lle bydd mwy o leoedd parcio ar y stryd.

Cludiant Cyhoeddus

Mae bysus yn mynd i Pharc Coffa Talbot. I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus, ffoniwch 0871 200 22 33 neu ewch i http://www.travelinecymru.info

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Chwilio