Atgofion o Richard Burton

Enw genedigol Richard Burton oedd Richard Jenkins ac roedd ei deulu, ei ffrindiau a'r gymuned leol yn ei alw'n 'Rich'. Mae'r cyfweliadau, yr atgofion a'r dyfyniadau canlynol wedi cael eu rhannu gan deulu, ffrindiau a chymdogion Richard.

Atgofion gan Graham Jenkins

Graham Jenkins yw brawd iau’r diweddar actor Richard Burton. Roedd Graham yn byw’n lleol yng Nghwmafan, Port Talbot tan iddo farw yn 2015. Yma mae Graham yn hel atgofion annwyl am ei frawd hŷn.

 

“Ar ôl i’n mam farw, roeddwn yn byw gyda fy mrawd hynaf, Ivor. Cafodd Rich ei fagu gan fy chwaer hŷn Cis yn Nhai-bach. Roedd Cis yn fenyw ryfeddol. Roeddwn yn arfer aros ychydig ddyddiau gyda Richard yn Nhai-bach, lle roeddem yn rhannu’r gwely ac yn cysgu ben i draed.”

 

Mae Graham yn cofio canu yn yr eisteddfod ac yn cystadlu yn erbyn Rich: “Rich enillodd, er y dywedon nhw fod fy llais i’n fwy pêr, ond roedd gan Rich bresenoldeb ar y llwyfan. Fe wnes i grïo dros hyn ac roedd Richard yn ddigon caredig i rannu ei enillion â fi. Roedd fy holl frodyr a chwiorydd yn gallu canu – roedd Cis yn gantores ac yn soprano fendigedig.”

 

“Yn yr ysgol, byddai Rich yn darllen llyfr ac yn cofio popeth. Petai’n byw o hyd, rwy’n credu y byddai’n awdur. Roedd yn ysgolhaig yn y clasuron ac enillodd ysgoloriaeth i Rydychen.”

 

“Roeddwn i’n actio fel ei ddwbl un tro ac roedd rhaid i fi gusanu Elizabeth Taylor.”

 


 

Cyfweliad ag Rhiannon James Trowell

Cafodd Richard Burton ei fagu gan ei chwaer hŷn Cecilia (Cis) ar ôl i’w fam farw pan oedd yn 2 flwydd oed. Daeth Richard yn fab i Cis a chafodd ei fagu ynghyd â’i nith Rhiannon a’i chwaer Marion. Magwyd Richard a Rhiannon fel brawd a chwaer.

Yn y cyfweliad hwn, mae Rhiannon yn hel atgofion annwyl am ei hewythr.

 

Sut byddech yn disgrifio Richard?
“Difyr, hael a charedig. Raconteur!”

Sut roedd Richard fel brawd hŷn (ewythr)?
“Roedd yn arfer mynd â fi a’m chwaer Marion i’r lle chwarae yn Nhai-bach. Rwy’n siŵr y byddai’n well ganddo chwarae rygbi gyda’i ffrindiau ond roedd cariad a pharch mawr ganddo at fy mam a byddai’n rhoi help llaw pan fo angen.”

“Roedd hefyd yn barod i’n helpu gyda’n gwaith cartref, er bod angen ei ddeall y tro cyntaf gan nad oedd llawer o amynedd gyda fe.”
“O bryd i’w gilydd byddai’n gofalu amdanom pan fyddai fy rhieni’n mynd i ymarfer gyda’r côr a byddai’n adrodd storïau wrthym a oedd yn ein gwefreiddio, yn enwedig ei storïau am ysbrydion (ar un adeg roedd wedi’i orchuddio’i hun â llen a oedd yn arswydus iawn). Roedd y rhain yn llawn effeithiau sain lleisiol megis byrddau llawr yn gwichian ac ysbrydion yn oernadu. Doedd fy rhieni ddim yn hapus pan gyrhaeddon nhw’r tŷ a gweld ein bod yn gwbl effro ac yn gynnwrf i gyd.”

A oedd Richard am fod yn actor erioed?
“Yn ei arddegau cynnar, roedd am fod yn athro ysgol ond gyda threigl amser, roedd wedyn am fod yn awdur.”

A oedd hoff lyfr gan Richard?
“Roedd wastad llyfr yn llaw Rich a byddai’n darllen nes oriau mân y bore. Byddai fy nhad, a oedd yn löwr, yn codi am 5.30am am ei shifft ac yn dod ar draws Rich yn darllen o hyd mewn cadair lawr llawr. Roedd yn dwlu ar farddoniaeth ers ei blentyndod, ond alla’i ddim cofio a oedd ganddo hoff fardd neu awdur. Ond byddai’n treulio llawer o oriau yn Llyfrgell Carnegie Tai-bach ym Mhort Talbot”.

“Roedd hefyd yn barod i’n helpu gyda’n gwaith cartref, er bod angen ei ddeall y tro cyntaf gan nad oedd llawer o amynedd gyda fe.”
“O bryd i’w gilydd byddai’n gofalu amdanom pan fyddai fy rhieni’n mynd i ymarfer gyda’r côr a byddai’n adrodd storïau wrthym a oedd yn ein gwefreiddio, yn enwedig ei storïau am ysbrydion (ar un adeg roedd wedi’i orchuddio’i hun â llen a oedd yn arswydus iawn). Roedd y rhain yn llawn effeithiau sain lleisiol megis byrddau llawr yn gwichian ac ysbrydion yn oernadu. Doedd fy rhieni ddim yn hapus pan gyrhaeddon nhw’r tŷ a gweld ein bod yn gwbl effro ac yn gynnwrf i gyd.”

A oedd Richard am fod yn actor erioed?
“Yn ei arddegau cynnar, roedd am fod yn athro ysgol ond gyda threigl amser, roedd wedyn am fod yn awdur.”

A oedd hoff lyfr gan Richard?
“Roedd wastad llyfr yn llaw Rich a byddai’n darllen nes oriau mân y bore. Byddai fy nhad, a oedd yn löwr, yn codi am 5.30am am ei shifft ac yn dod ar draws Rich yn darllen o hyd mewn cadair lawr llawr.
Roedd yn dwlu ar farddoniaeth ers ei blentyndod, ond alla’i ddim cofio a oedd ganddo hoff fardd neu awdur. Ond byddai’n treulio llawer o oriau yn Llyfrgell Carnegie Tai-bach ym Mhort Talbot “.

Beth yw eich hoff atgofion am Richard?
“Roedd ein cyfarfod olaf oddeutu blwyddyn a hanner cyn iddo farw. Ar y pryd, roedd Rich wedi bod yn cael poen yn ei gefn a’i wddf a doedd e ddim mewn iechyd da o gwbl. Roedd yn treulio ychydig ddyddiau gyda fy mam yn Hadley Wood, Hertfordshire, a chan mod i’n byw drws nesaf i’m mam ac yn rhannu gardd â hi, roeddem yn gweld cryn dipyn ohono bryd hynny. Doedd dim gosgordd ganddo, dim ffotograffwyr, dim gwasg, dim ond Rich a’r teulu yn cael amser tawel gyda’i gilydd, a oedd yn anghyffredin. Roedd Marian, Rich a minnau’n eistedd yn yr ardd ar brynhawn heulog gan hel atgofion. Fe wnaethom siarad am ein mam ryfeddol a’i dawn i wneud y tri ohonom deimlo’n arbennig. Roedd pob un ohonom wedi teimlo’n ddirgel mai nhw oedd y ffefryn.”

“Yn llyfr Rich, ‘A Christmas Story’, cyfrif lled-hunangofiannus wedi’i seilio’n fras ar fy ngeni ar 24 Rhagfyr, ysgrifennodd am ein mam gan ddweud, “Now my sister was no ordinary woman – no woman ever is, but to me, my sister less than any. When my mother had died, she, my sister, had become my mother, and more mother to me than any mother could ever have been. I was immensely proud of her. I shone in the reflection of her green-eyed, black-haired, gypsy beauty.”

 


Cyfweliad ag Ann Scourfield

Roedd Ann Scourfield, sy’n byw ym Mhort Talbot, yn ffrind ac yn ffrind dosbarth i Richard Burton.

Mae Ann yn hel atgofion o fyw y tu draw i’r gornel o dŷ Richard, ac o fynd i’r un ysgol a bod yn yr un dosbarth yn Ysgol Uwchradd Dyffryn ym 1938. Roedd ffrindiau dosbarth Richard Burton yn ei alw’n ‘Ritchie Jenkins’.

Sut byddech yn disgrifio Ritchie?
“Ofnadwy, doedd e ddim yn olygus iawn,” mae’n dweud â gwên a thinc o hiwmor yn ei llais. “Beth dwi’n meddwl yw bod ganddo natur ddireidus a drwg, roedd bob amser yn cynllunio rhywbeth.”

Mae gan Ann atgof penodol o fod yn y dosbarth gyda Ritchie pan hedfanodd esgid trwy’r awyr tuag ati a’i tharo’n llawn yn yr wyneb. “Ritchie, wastad y clown. Fe wnaeth daflu’r esgid; roedd yn anelu at ei ffrind Dan Parr.”

Ai uchelgais Ritchie erioed oedd bod yn actor?
“Ie, o’r cychwyn cyntaf! Gadawodd Ritchie yr ysgol i weithio yn siop y Co-op yn Nhai-bach, fel dilladwr dynion. Dwi i ddim yn meddwl bod y swydd ‘na yn addas iddo,” meddai Ann dan wenu.

Ydych chi’n cofio pan oedd e’n byw gyda’i athro Philip Burton?
“Ydw, roedd Philip yn fy nysgu i hefyd. Fe oedd fy athro Saesneg ac roedd e’n ddyn tal, eitha’ mawr a hoffus. Roedd Philip a Richard yn byw yn Stryd Cannaught , Port Talbot. Yn ystod y rhyfel pan fyddai’r seiren yn canu, byddai’r dosbarth yn mynd i dŷ Philip Burton a oedd wedi’i ddynodi’n gartref lletya iddynt.”

Beth oedd ei hoff bwnc yn yr ysgol?
“Dwi’n credu mai Saesneg oedd ei hoff bwnc. Ro’n i wastad yn meddwl y byddai’n mynd yn bell gyda’i actio; roedd ganddo allu naturiol. Roedd bob amser yn taflu ei lais. Roedd Ritchie’n dod ymlaen yn dda gyda’i holl athrawon, gan gynnwys yr athro chwaraeon, Mr Smith. Gallai fod yn hawdd iddo ddewis chwaraeon i’w yrfa. Roedd yn nhîm rygbi’r ysgol. Dyn arall a ddylanwadodd ar ddyfodol Ritchie oedd Leo Lloyd. Dyn gwych oedd yntau; roedd e’n cymryd rhan yn holl gynyrchiadau’r ysgol.”

Dyfyniadau ac atgofion gan Fred Scourfield (gŵr Ann):

Mae Fred yn cofio’r tro cyntaf iddo gwrdd ag Elizabeth Taylor pan ddaeth hi i gynnau’r llifoleuadau gyda Richard ym Maes Rygbi Aberafan. “Roedd yn noson oer iawn ac roedd stof yng nghanol y bar gyda phedwar dyn ac un fenyw o’i chwmpas.” Mae Fred yn cofio gofyn am beint a’r fenyw’n dweud, “This is the best place to be, isn’t it?” Doedd gan Fred ddim syniad mai Elizabeth Taylor oedd hon nes bod rhywun yn dweud wrtho.

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Chwilio