Wrth ddilyn ‘Llwybr y Man Geni’ ym Mhont-rhyd-y-fen, cewch weld man ei eni a’i glywed yn dyfynnu darn o ‘Under Milk Wood’, sef drama gan ei hoff fardd, Dylan Thomas. Ar hyd y llwybr mae arwyddbyst gyda phaneli gwybodaeth sy’n rhoi ffeithiau diddorol am blentyndod a gyrfa Richard.
Ffeithiau am y Llwybr
Anhawster: Canolig (rhai grisiau a wynebau garw), llyfr llafar
Pellter: 3 milltir/4.8 km
Dechrau: Maes parcio Rhyslyn
Caniatewch: 1½ i 2 awr i gerdded y llwybr cyfan
Mannau o Ddiddordeb
- Traphont ddŵr Pont-rhyd-y-fen, adeiladwyd ym 1825.
- Man geni Richard Burton.
- Stryd Penhydd lle roedd sawl aelod o deulu Richard yn arfer byw.
- Traphont ddŵr Pont-rhyd-y-fen, adeiladwyd ym 1898.
- Mainc Bortreadau. Mae’r cerfluniau maint bywyd go iawn yn cynrychioli Richard Burton, y digrifwr Rob Brydon a aned yn lleol a cheidwad ymddeoledig Parc Coedwig Afan, Dick Wagstaff.
- Capel Bethel. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa Richard Burton yma ychydig ar ôl iddo farw a daeth cannoedd o bobl leol a llawer o bobl enwog.
Taflen llwybrau
Gellir lawrlwytho taflen newydd sy’n cynnwys mapiau a chyfarwyddiadau ar gyfer dilyn y ddau lwybr Richard Burton.
Sut i Ymuno â’r Llwybr
Cyfeiriadau i faes parcio Rhyslyn
Gadewch yr M4 (C40) a dilynwch yr A4107 i gyfeiriad Parc Coedwig Afan. Trowch i’r chwith wrth y gylchfan fach, ewch ymlaen trwy ddwy set o oleuadau traffig a throwch i’r chwith i ymuno â’r B4287 tuag at Bont-rhyd-y-fen. Cymerwch droad sydyn i’r dde yn union cyn y draphont.
Cyfeiriadau i Ganolfan Gymunedol Cwmafan
Gadewch yr M4 (C40) a dilynwch yr A4107 i gyfeiriad Parc Coedwig Afan. Trowch i’r chwith wrth y gylchfan fach. Ewch ymlaen a throwch wrth y goleuadau traffig. Ar waelod y bryn, trowch i’r dde ac yna i’r dde eto pan fydd Clwb Rygbi Cwmafan o’ch blaen.
Cludiant Cyhoeddus
Mae bysus yn mynd i Bont-rhyd-y-fen a Canolfan Gymunedol Cwmafan. I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus, ffoniwch 0871 200 22 33 neu ewch i http://www.travelinecymru.info