Hwn, y pellaf i’r gorllewin o’n pum cwm, yw’r porth i gadwyn y Mynyddoedd Du, ar ffin orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Fwy na thebyg, y cyfeiriad cynharaf at y cwm yw’r un a geir yn chwedl arwrol ‘Culhwch ac Olwen’, o’r 11eg ganrif, un o’r 11 o hanesion canoloesol Cymraeg a geir yn y Mabinogi.
Fodd bynnag, fel cymoedd eraill y rhanbarth, roedd Dyffryn Aman Uchaf yn enwog fel canolfan cloddio am lo a gwaith metel tan ganol yr 20fed ganrif, pryd y dechreuodd byd natur hawlio’r ardal yn ôl.
Mae safle’r dyffryn ar ffin Sir Gaerfyrddin, lle ceir canran uchel o siaradwyr Cymraeg, yn golygu bod ‘Bore da’ hwyliog yn gyfarchiad tebygol iawn yma.
Mae’r croeso mor gynnes ag erioed yn y cwm hwn â’i ysbryd cymunedol cryf. Y lle gorau i weld yr ysbryd hwn ar waith yw Clwb Trotian Dyffryn Aman, sy’n cael ei redeg gan y gymuned, lle gallwch fwynhau math o rasio sy’n wahanol ond yr un mor gyffrous, sef rasys trotian.
Y cwm pellaf i’r gorllewin, sy’n fwyaf gwyllt, ond sy’n cynnig y croeso mwyaf Cymreig.
Archwilio Dyffryn Aman Uchaf