Er bod y glowyr a’r gweithwyr tunplat wedi hen adael y cwm, mae twristiaid yn cael eu denu yma nawr i ddysgu am ei rôl bwysig yn y Chwyldro Diwydiannol.
Ar un adeg, Glofa Cefn Coed oedd y pwll glo caled dyfnaf yn y byd. Yn yr amgueddfa, mae ymwelwyr yn dysgu pam cafodd y llysenw diflas ‘Y Lladd-dy’.
Yn Aberdulais, cafodd pŵer dŵr ei harneisio mor bell yn ôl â 1584. Yn ddiweddarach, darparodd y gweithfeydd yno dechnoleg newydd chwyldroadol i’r byd – tunplat. Cewch weld hanes taith yr ardal hon o fod yn ganolfan ddiwydiannol yng Ngwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, sydd bellach yn safle o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle mae’r rhaeadr hardd, hawdd ei chyrraedd yn gefnlen.
Wrth gwrs, nid dim ond glo a thunplat gafodd eu hallforio o Gwm Dulais; mae tipyn o dystiolaeth mai ym mhentref y Banwen y cafodd Sant Padrig, nawddsant Iwerddon, ei eni.