Cwm Tawe

Mae Afon Tawe yn llifo i lawr o Fannau Brycheiniog yn y gogledd i’r môr yn Abertawe yn y de, yn torri trwy ganol y cwm wrth wneud hynny.

Mae Camlas Tawe, sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r afon mewn mannau, ac yn ymuno â hi mewn mannau eraill, yn llwybr braf i gerddwyr a beicwyr fel ei gilydd.

 

Pontardawe yw calon ddiwylliannol y cwm, gan fod canolfan y celfyddydau yno yn cynnig rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw, comedi, dawns, drama a digwyddiadau i blant.

 

Cynhelir Gŵyl Pontardawe ym mis Awst, gyda gwledd o gerddoriaeth fyw o amrywiaeth o genres, a gorymdaith draddodiadol ar y stryd.

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Chwilio