Mae Bro Nedd yn ymestyn o dref Castell-nedd yn y de i dref Glyn-nedd yng ngogledd y cwm. Y tirweddau godidog sy’n cydblethu â hanes diwydiannol garw yw elfennau mwyaf trawiadol y cwm hwn.
Pan gwblhawyd Camlesi Nedd a Thenant, arweiniodd hynny at ehangu’r cloddio am lo yn y Fro. Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd y camlesi’n cludo 200,000 o dunelli o lo bob blwyddyn, ar gyfartaledd. Heddiw, mae’r camlesi wedi cael eu hadfer yn ofalus er mwyn i genhedlaeth newydd ddod i’w hadnabod. Mae Camlesi Nedd a Thenant yn symud yn araf trwy’r dirwedd hanesyddol hon gan fynd heibio i olion ysblennydd Mynachlog Nedd o’r 12fed ganrif a Gwaith Haearn Mynachlog Nedd ger canol tref Castell-nedd, cyn mynd ymlaen, ochr yn ochr ag afon Nedd, trwy bentrefi Aberdulais, Tonna, Resolfen a Glyn-nedd.
Mae Maes Parcio’r Gamlas yn lle gwych i ddechrau taith gerdded ar hyd Camlas Nedd. Wedi’i leoli’n agos at yr A465 yn Resolfen, mae Maes Parcio’r Gamlas yn cynnig digon o le parcio, caffi a chyfleusterau cyhoeddus a mynediad at lwybr cerdded hamddenol ar hyd y gamlas i Rheola ac ymlaen i dref Glyn-nedd os dymunwch.
Ym mhen deheuol Bro Nedd mae Canol Tref Castell-nedd. Mae’r dref yn gartref i farchnad dan do fywiog, enwau poblogaidd y stryd fawr a manwerthwyr annibynnol ynghyd â dewis rhagorol o gaffis, tafarnau a bwytai. Cynhelir Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd yng nghanol tref Castell-nedd bob blwyddyn hefyd ar ddechrau mis Hydref.
Mae’r holl raeadrau ym Mro Nedd ac ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gerllaw yn golygu bod yr ardal yn cael ei hadnabod fel Gwlad y Sgydau. Bu’r naturiaethwr o’r 19eg ganrif, Alfred Russel Wallace, yn archwilio basn afon Amazon ac Archipelago Malaya yn helaeth, ond ei flynyddoedd cynnar ym Mro Nedd a’i hudodd i archwilio’r byd naturiol, a’r ardal honno y soniodd amdani’n arbennig yn ei atgofion. Y ‘nodweddion arbennig’ y soniodd amdanynt oedd y crynodiad uchel o raeadrau, ceunentydd ac ogofâu yn yr ardal, a grëwyd gan gyfuniad o dywodfaen coch caled a chalchfaen meddal yn brigo i’r wyneb. Cafodd y rhaeadr ysblennydd 80 troedfedd o uchder ym Melin-cwrt, rai milltiroedd i fyny’r cwm, ei darlunio gan Turner, yr artist o Loegr.
Mae Gwlad y Sgydau’n boblogaidd dros ben ac fe all fod yn brysur iawn yn ystod y gwanwyn a’r haf. Yr adeg orau i ymweld â Gwlad y Sgydau a chael saib yw ar ôl cyfnod da o law; sy’n golygu bod tywydd nodweddiadol yr hydref a’r gaeaf yn ddelfrydol ar gyfer ymweliad â Bro Nedd.