Cwm Cryddan
- Rhywfaint o Ymdrech
-
2.4 km / 1.4 milltir
-
Awr
- Coetir
Dynodwyd Cwm Cryddan, sy'n goetir derw gan mwyaf, yn warchodfa natur leol yn 2008. Mae'r llwybr hwn yn eich arwain trwy'r warchodfa natur ac ar hyd llwybr â choed bob ochr i'r Cimla, cyn troi o gwmpas i ddychwelyd i'r man cychwyn. Mae lle parcio cyfyngedig yng nghanol y warchodfa natur ar hyd llwybr tarmac neu, i'r rhai nad ydynt am adael y car yn y coetir, mae'n bosib parcio fel arfer ger y fynedfa ar yr Hen Heol. D.S. Mae twmpathau cyflymder ar yr heol hon sy'n eithaf uchel, felly cymerwch ofal os oes gennych gar isel.
Mae'r daith gerdded yn dechrau trwy ddilyn Nant Cryddan sy'n ymddolennu trwy'r coetir. Dilynwch yr heol cyhyd â phosib nes gweld mynedfa i lwybr sy'n rhannol guddiedig rhwng dau adeilad ym mhen pellaf y coetir. Bydd y llwybr hwn, sydd â'r enw addas Heol Gerrig, cyn ymuno â thrac gwledig gyda golygfeydd dymunol dros y caeau a'r bryniau yn y pellter. Mae'r darn byr trwy'r strydoedd yn werth ei wneud er mwyn creu dolen gylchog sy'n mynd â chi'n ôl ar hyd llwybr caregog i'r coetir.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Mae coetir Cwm Cryddan yn hafan i anifeiliaid a phlanhigion fel ei gilydd. Cadwch lygad am ysblander lliwgar clychau'r gog a marddanadl melyn wrth ochr y llwybrau yn y gwanwyn. Ymhlith yr adar i chwilio amdanynt mae siglennod llwyd yn hopian ger y nant, dringwyr bach yn gwneud eu ffordd lan boncyff coed a chnocellau brith mwyaf yn cadw eu sŵn nodweddiadol wrth ddyrnu ar y coed.

Llwybr gwastad dymunol iawn, yn addas i bawb. Dechrau yn y maes parcio ger y...
Darllen mwy
Dynodwyd Cwm Cryddan, sy'n goetir derw gan mwyaf, yn warchodfa natur leol yn 2008. Mae'r...
Darllen mwy
Mae modd cyrraedd y trysor cuddiedig hwn o gwm o'r Groes yng nghanol tref Pontardawe...
Darllen mwy