Cwm Du a Phlanhigfa Glanrhyd

ANHAWSTER:
  • Rhywfaint o Ymdrech
PELLTER:
    2.1 km / 1.3 m
CANIATAU:
    50 munud
CYNEFIN:
  • Coetir/glan afon

Mae modd cyrraedd y trysor cuddiedig hwn o gwm o'r Groes yng nghanol tref Pontardawe (mynediad gyferbyn y Dillwyn Arms) Dilynwch afon Cwm Clydach nes dringo grisiau ar y chwith sy'n arwain lan i hen ystâd Glanrhyd. Ewch ar hyd y llwybr cylchol o gwmpas yr adran uchaf hon, gan gadw llygad am y coed sbesimen trawiadol megis y gochwydden arfor enfawr, a blannwyd gan y teulu Gilbertson. Mae'r rhan fwyaf o'r ystâd, sy'n dyddio'n ôl i'r 1870au, wedi'i dymchwel erbyn hyn ac wedi troi'n ôl yn goetir eilaidd, ond mae olion o ddiddordeb hanesyddol ar ôl ac mae yn yr arfaeth i osod paneli esboniadol a gwella mynediad i'r nodweddion hyn a fydd yn creu hyd yn oed mwy o ddiddordeb i'r coetir amrywiol hwn.

Gwylio Bywyd Gwyllt: Yr amser gorau i weld planhigion blodeuol megis blodau'r gwynt, dail y beiblau a gwlydd melyn mair yw mis Mai. Yn y coed, gellir gweld heidiau o ditŵod gan gynnwys y titw penddu a'r titw cynffon-hir.

Camlas Nedd Resolfen – Glyn-nedd
  • Castell nedd /
  • Castell-nedd
  • Bro Nedd
  • Llwybr gwastad dymunol iawn, yn addas i bawb. Dechrau yn y maes parcio ger y...

    Darllen mwy
    Cwm Cryddan
  • Castell nedd /
  • Castell-nedd
  • Bro Nedd
  • Dynodwyd Cwm Cryddan, sy'n goetir derw gan mwyaf, yn warchodfa natur leol yn 2008. Mae'r...

    Darllen mwy
    Cwm Du a Phlanhigfa Glanrhyd
  • Pontardawe /
  • Pontardawe
  • Cwm Tawe
  • Mae modd cyrraedd y trysor cuddiedig hwn o gwm o'r Groes yng nghanol tref Pontardawe...

    Darllen mwy

    Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

    Chwilio